Adfeilion Castell Pennard, Gŵyr

Gower-AONB-FullAdeiladodd arglwyddi Normanaidd gastell yma ar ôl cipio tiroedd o'r Cymry ar ddechrau'r 12fed ganrif. Roeddent yn amgylchynu'r eiddo gyda ffos ac arglawdd amddiffynnol, a elwir yn amddiffynfa gylch. Yn ddiweddarach defnyddiwyd cerrig ganddynt i adeiladu neuadd y tu mewn iddo. Erbyn dechrau'r 14eg ganrif roedd y castell hefyd yn cynnwys llenfur, tŵr gorllewinol a phorthdy carreg gyda dau dŵr ar yr ochr ddwyreiniol.

Engraving of Pennard Castle c.1850Nid oedd y castell byth yn gartref iawn, ond roedd arglwyddiaeth Gŵyr yn cynnal llys yma ar adegau, yn hytrach nag yn Abertawe. Roedd yr hinsawdd yn anarferol o stormus yn y 13eg a'r 14eg ganrif. Roedd y tywod a chwythwyd o dwyni cyfagos yn plagio'r ardal o amgylch y castell, ac ym 1317 rhoddodd William de Braose III hawliau hela'r castell i'w heliwr, a oedd yn byw yn Fferm Hunts.

Wrth i'r tywod barhau i gronni, gadawyd y castell a'r pentref bach i'r gogledd-ddwyrain iddo. Roedd y castell yn adfail erbyn 1650. Arweiniodd ei dranc at lawer o chwedlau gwerin ac ofergoelion, fel y gallwch ddarllen ar y dudalen hon.

Mae'r engrafiad o'r adfeilion yn dyddio o tua 1850 ac fe'i dangosir yma drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cafodd safle'r castell ei gloddio'n ofalus ym 1961, gan ddatgelu olion gwahanol ystafelloedd. Doedd dim deunyddiau toi – sy'n awgrymu bod gan y castell do gwellt. Ailgladdwyd rhan isaf yr adfeilion gan yr archeolegwyr er mwyn diogelu'r olion.

Heddiw mae'r castell yn heneb gofrestredig, a Chlwb Golff Pennard yw ei geidwad. Mae'r waliau'n gartref i blanhigyn blodeuol prin a elwir yn llysiau'r-bystwn melyn (Draba aizoides) nad yw i'w weld yn unman arall yn y DU heblaw Gŵyr. Mae fel arfer yn tyfu ar glogwyni a gellir ei ddisgrifio fel Blodyn Sirol Morgannwg.

Mae Pennard Pill, yr afon o dan y castell, yn llifo trwy goetir, morfa heli a thirweddau twyni. Mae'r coedydd yn enghraifft warchodedig o goetiroedd ynn. Gorchuddir y morfa heli gan ddŵr hallt ar benllanw ac fe'i datgelir ar adeg trai, felly dim ond rhai mathau o blanhigion sy'n byw yno sy'n gallu dioddef yr amodau llym hyn.

Gyda diolch i Glwb Golff Pennard, Helen Nicholas, o Gower Unearthed, Cymdeithas Gŵyr, ac i Bartneriaeth AoHNE Gŵyr, dan arweiniad Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwefan AoHNE Gŵyr

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button