Pentref a gollwyd i'r tywod, Pennard, Gŵyr
Pentref a gollwyd i'r tywod, Pennard, Gŵyr
Yn yr oesoedd canol, roedd pentref lle gwelwch yn awr y dirwedd agored rhwng y fan hon a Chastell Pennard. Gorfodwyd y trigolion allan oherwydd bod gormod o dywod wedi'i chwythu gan y gwynt wedi cronni yno.
Roedd y castell yn wreiddiol yn faenor a oedd yn perthyn i arglwyddi Normanaidd Gŵyr yn y 12fed ganrif. Codwyd adeiladau eraill ar y tiroedd demaen (yn perthyn i'r faenor). Roeddent yn cynnwys eglwys, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg yn y 13eg neu'r 14eg ganrif.
Roedd yr ardal yn agored i'r gwynt gorllewinol mynychaf, a oedd yn cario tywod o'r twyni ac yn ei adael o amgylch yr adeiladau a'r tu mewn iddynt. Byddai cael y tywod yn crafu ar draws yr adeileddau, ddydd a nos, wedi achosi erydiad a difrod.
Canfu arolwg o Faenor Pennard ym 1650 fod y tiroedd demaen wedi'u gorchuddio'n llwyr gan dywod gan eu bod mor agos at y môr gan eu gwneud yn gwbl amhroffidiol, ac yn gorwedd yn agored fel tir comin.
Diflannodd yr eglwys adfeiliedig – sydd bellach o fewn y cwrs golff – o'r golwg o dan dywod, er i'r waliau sydd wedi goroesi gyrraedd hyd at 2.5 metr o'r llawr. Ailddarganfyddwyd yr olion gan y rheithor lleol, Edward Knight James tua 1860. Trefnodd gloddiad a ddatgelodd allor. Ger yr allor roedd pedwar bedd. Roedd tri yn cynnwys un sgerbwd yr un. Cafwyd hyd i weddillion chwe pherson yn y pedwerydd bedd.
Mae Eglwys bresennol y Santes Fair ym Mhennard hefyd yn ganoloesol. Yn ôl traddodiad lleol, mae'n cynnwys elfennau a dynnwyd o'r eglwys a dynghedwyd.
Ym 1983 defnyddiodd archeolegwyr ddarnau o grochenwaith i ddyddio olion tŷ, rhwng yr eglwys a'r castell, i'r 13eg ganrif.
Gyda diolch i Glwb Golff Pennard, Helen Nicholas o Gower Unearthed, Cymdeithas Gŵyr, ac i Bartneriaeth AoHNE Gŵyr, dan arweiniad Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr