Cildraeth Brandi, Penrhyn Gŵyr
Mae enw'r fewnfa fach hon yn gysylltiad â'r adeg pan oedd Penrhyn Gŵyr yn fagwrfa smyglo. Brandi oedd un o'r mathau mwyaf cyffredin o nwyddau gwaharddedig o Ffrainc gan ei fod yn ddrud ac wedi'i drethu'n drwm - gellid gwneud elw mawr o gludo symiau cymharol fach.
Roedd casgenni o frandi a gwirodydd eraill yn cael eu cario i Benrhyn Gŵyr ac arfordiroedd addas eraill ar gychod hwylio cyffredin. Roedd rhai o'r cychod yn cario cargo cyfreithlon, fel glo, ar eu mordeithiau dychwelyd. Yng nghanol nos, byddai cwch a oedd yn cario nwyddau anghyfreithlon yn cael ei dywys gan lusernau i gildraeth addas lle na fyddai'n cael ei weld gan swyddogion tollau â'r swydd o sicrhau bod trethi a thollau'n cael eu talu ar fewnforion.
Ar ôl i'r cargo gael ei ddadlwytho, byddai grwpiau o lafurwyr lleol yn ei gario i dai diogel, a oedd yn aml ymhell i mewn i'r tir. Roedd hyn yn ategu at incwm gweithwyr fferm. Weithiau daeth yn brif ffynhonnell incwm iddynt, a oedd yn golygu bod ffermwyr yn ei chael hi'n anodd wrth ddod o hyd i weithwyr a thalu cyflogau cystadleuol.
Yn 1795 dywedodd swyddogion tollau Abertawe fod o leiaf 5,000 o gasgenni o wirodydd wedi cael eu cludo i Benrhyn Gŵyr yn ystod chwe mis yn unig.
Ym 1804 atafaelodd swyddogion tollau 420 o gasgenni o wirodydd yn Highway, ger Pennard, ond cyn bo hir roedd mwy o bobl leol na swyddogion a oedd wedi ymgynnull mewn torf i fynnu ychydig o'r alcohol. Rhoddwyd yr alcohol iddynt er mwyn osgoi aflonyddwch. Erbyn i'r nwyddau gyrraedd Abertawe, roedd rhai casgenni wedi'u rhoi i swyddogion tollau, roedd rhai wedi cwympo a thorri, cafodd rhai eu dwyn a dywedwyd bod eraill wedi "gollwng".
Gweler y troednodiadau am wybodaeth am enwau lleoedd diddorol eraill yn y fro hon.
Mae ffynonellau'n cynnwys 'Brandy for the Parson' gan Michael Gibbs, Cyfnodolyn Cymdeithas Gŵyr, 1973. Gyda diolch i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth ychwanegol am enwau lleoedd
Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr
Troednodiadau: Enwau lleoedd eraill yma:
Ysgrifennwyd Caswell fel Carswell ym 1650 a Caswell Bay ym 1729. Cyfeiria'r enw at nant ferwr ('cress stream') (sy'n cyrraedd y môr ger Gwesty Bae Caswell). Mae'n debyg ei fod yn nodedig am ferwr y dŵr, planhigyn bwytadwy sy'n ffynnu mewn priddoedd gwlyb, alcalïaidd. Credir mai Porth Tulon yw'r enw Cymraeg, sydd o bosib yn golygu 'cildraeth dyn o'r enw Tulon'.
Mae Hareslade yn fan tebygol lle gellid gweld ysgyfarnogod gwyllt (Hen Saesneg hara). Mae'r gair Saesneg 'slade' yn elfen gyffredin yn enwau lleoedd Penrhyn Gŵyr ac fel arfer mae'n disgrifio dyffryn agored, gwastad sy'n aml yn eithaf bach, fel y gwelir yma. Mae'r dyffryn yn arwain i lawr i Gildraeth Brandi.
Cofnodwyd Herbert's Lodge fel Withybed Lodge ym 1843 a Herbert's Lodge ym 1830 a 1888. Mae 'withybed' yn disgrifio ardal o dir gwlyb lle mae coed helyg bychain yn tyfu. Mae'r 'withy' yn cyfeirio at goesynnau hyblyg y planhigyn sy'n cael eu defnyddio mewn gwaith toi ac wrth greu basgedi a chlwydi. Elfen enw lle cyffredin yw Withy mewn rhannau o Benrhyn Gŵyr sydd wedi eu Seisnigeiddio. Enw personol cyffredin yw Herbert.