Paentiad o ddamwain trên 1899, Penmaenbach

Paentiad o ddamwain trên 1899, Penmaenbach

Ym 1899 syrthiodd trên nwyddau i mewn i'r môr yma, gan ladd y gyrrwr a'r taniwr. Gwnaeth Franz Emil Krause y paentiad dramatig hwn o’r llanast dan awyr stormus. Os ydych newydd sganio’r codau QR, sylwch ar y bont isel gerllaw o dan y rheilffordd a adeiladwyd i gynnal llwybr hynafol y porthmyn i'r traeth. Byddent yn gyrru da byw o amgylch y pentir.

Painting of Penmaenbach train accident 1899

Ganed Mr Krause yn Sacsoni Isaf yn 1836. Roedd yn trigo yn Gyffin, Conwy, pan fu farw yn 1900, gan adael gweddw a phump epil. Yn ei flynyddoedd olaf, fe’i adwaenir fel Francis E Krause. Mae'r paentiad olew o’r trên yn eiddo i Gyngor Tref Conwy.

Y tu hwnt i'r llanast gwelir y bont sy'n dal i gario'r ffordd (lôn ddwyreiniol yr A55 yn awr) dros y rheilffordd ger ceg twnnel Penmaenbach.

Digwyddodd y ddamwain ar 12 Ionawr 1899 wrth i storm daro’r arfordir. Oddeutu 10.20yh pasiodd trên teithwyr o Gaer Benmaenbach heb unrhyw ddigwyddiad anarferol.

Ychydig yn hwyrach, sylwodd fforddolwyr (dynion a oedd yn cynnal a chadw’r trac) bod y môr wedi golchi i ffwrdd tua 60 metr o'r rheilffordd. Ar unwaith dechreuodd un ohonynt i gerdded tuag at Gonwy gyda lamp coch i rybuddio unrhyw drenau a fyddai’n agosáu. Nid oedd wedi cyrraedd pen pellaf y twnnel pan ddaeth trên nwyddau o Fanceinion tuag ato, oddeuto 11.00yh. Ni wnaeth y gyrrwr unrhyw ymgais i ddefnyddio’r brêc, a syrthiodd y locomotif a’r wagenni cyntaf i'r môr.

Cafodd cyrff y gyrrwr, Edward Evans, 45, a’r taniwr, Owen Edward Jones, 25, eu golchi allan i'r môr. Roedd y ddau ddyn yn byw yng Nghaergybi. Darganfuwyd corff Mr Evans yn fuan, a chorff Mr Jones ger Deganwy bron i ddau fis yn ddiweddarach. Roedd oriawr Mr Jones wedi stopio am 10:55. Ei waith oedd cynnal tân y locomotif, ac roedd wedi gweithio i'r London & North Western Railway am 10 mlynedd.

Blaenoriaeth y cwmni wedi’r digwyddiad oedd ailadeiladu’r rheilffordd, ychydig ymhellach i'r de. Roedd un o'r traciau newydd yn barod y bore trannoeth, gan alluogi’r Irish Mail (Caergybi i Lundain) i basio yn y ddau gyfeiriad. Agorwyd yr ail drac yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button