Ffermdy Pentre, Sanclêr
Ddechrau’r ddeunawfed ganrif, fferm ar osod o ryw 114 erw oedd Pentre. Tŷ preifat yw’r ffermdy –parcher preifatrwydd y deiliaid os gwelwch yn dda.
Yr adeg honno roedd y fferm yn eiddo i’r cymwynaswr Syr John Philipps o Gastell Pictwn, Sir Benfro. Noddai ef achosion teilwng gan gynnwys yr ysgolion cylchynol elusennol a sefydlwyd yn Llanddowror, plwyf a oedd hefyd yn eiddo i Syr John.
Roedd ysgolion lle y gellid talu am addysg mewn amryw blwyfi ond doedd dim ysgol o gwbl yn Sanclêr tan y 1740au. Cyn hynny, roedd rhaid i blant lleol fynd i blwyf Meidrim i’w hysgolia. Prin oedd nifer y teuluoedd a fedrai fforddio ffioedd ysgol. Roedden nhw’n eithriadol o dlawd ac roedd rhaid i’r plant ifancaf hyd yn oed weithio yn ystod y dydd er mwyn ennill ychydig o geiniogau’n ychwanegol. Saesneg oedd iaith yr ysgolion gan amlaf ond Cymraeg oedd iaith y teuluoedd fel rheol a hwythau heb allu deall braidd dim Saesneg.
Agorodd y Parch. Griffith Jones ei ysgolion cylchynol tua 1731. Hyfforddai athrawon yn Llanddowror cyn iddyn nhw deithio i blwyfi eraill i gynnal ysgolion er mwyn dysgu llythrennedd, ynghyd â dosbarthiadau nos, am gyfnod o sawl mis. Wedyn symudai’r athrawon yn eu blaenau i blwyf arall. Roedd yr ysgolion yn rhad ac am ddim. Caent eu hariannu gan gyfraniadau y gweithiai Griffith Jones yn galed i’w crynhoi. Cynhaliwyd un o’r ysgolion cynnar hyn ar fferm Pentre yn 1743.
Gymaint oedd llwyddiant yr ysgolion, bu galw amdanyn nhw gan blwyfi dros Gymru gyfan. Dros gyfnod o 48 o flynyddoedd cynhaliwyd 6,610 o ysgolion ym mhob un o siroedd Cymru. Dysgwyd tri chwarter poblogaeth Cymru i ddarllen Cymraeg. Erbyn 1760 roedd Cymru wedi’i thrawsnewid i fod yn un o’r cenhedloedd mwyaf llythrennog yn Ewrop a’r iaith Gymraeg wedi ei hatgyfnerthu.
Byddai dosbarthiadau’r ysgolion cylchynol yn cael eu cynnal mewn adeiladau a fodolai eisoes, yn enwedig ar ffermydd. Yn 1743 roedd 18 disgybl yn yr ysgol a oedd yma. Yn 1770 mewn ysgol arall a gynhaliwyd yma roedd 42 disgybl. Hwyrach mai llwyddiant y drefn oedd i gyfrif am y cynnydd hwn.
Yr adeg honno, roedd y Sanclêr sydd ohoni heddiw wedi’i rhannu rhwng dau blwyf: y naill ran i’r gorllewin o’r afon, a’r llall, Llandeilo Abercywyn i’r dwyrain. Cynhaliwyd tair ysgol gylchynol elusennol yn Sanclêr ond 46 yn Llandeilo Abercywyn, mwy nag yn yr un plwyf arall yng Nghymru, mae’n siwr. Byddai’r rhan fwyaf o’r ffermydd yn yr ardal wedi cefnogi ysgol, weithiau ar fwy nag un achlysur.
Parhaodd y cysylltiad rhwng fferm Pentre â’r gymuned dros y canrifoedd. Yn yr ugeinfed ganrif bu cysylltiad agos rhwng y fferm a co-op y ffermwyr drws nesaf (Y Gât bellach) a chyda’r gymdeithas amaethyddol leol a’i sioe flynyddol. Yn yr hen lun mae’r ffermdy i’r dde o adeilad y co-op.
Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin
Cod post: SA33 4AA Map y lleoliad