Cwrt Derllys, Bancyfelin, cartref John Vaughan yn blentyn
Am ganrifoedd lawer roedd Derllys yn gartref i rai o deuluoedd bonedd, blaenllaw Sir Gaerfyrddin. Ailadeiladwyd y tŷ yn 1814 ond codwyd y tŷ gwreiddiol yn 1660 (yn ôl y dyddiad ar y garreg). Dyma gartref John Vaughan (1663- 1722) yn blentyn. Etifeddodd ef yr ystad pan oedd yn un ar hugain oed. Roedd Derllys yn un o ystadau cyfoethocaf y sir, yn cynnwys 215 eiddo ac yn cynhyrchu incwm sylweddol o £1,237 y flwyddyn.
Defnyddiodd John ei gyfoeth a’i ddylanwad i gynorthwyo gwerin cefn gwlad gydol ei oes. Roedd ei ffydd yn bwysig iddo ac anogai deuluoedd i weddïo gartref.
Yn 1692 priododd ag Elizabeth Thomas o Feidrim yn eglwys Merthyr gerllaw. Ganwyd pedwar o blant iddyn nhw gan gynnwys Bridget – hi oedd Madam Bevan, y wraig ddylanwadol o Lacharn. Mynnodd John addysg dda i’w blant a’u codi i fod yn Gristnogion selog.
Sefydlodd ysgol yn Llangynog a fu’n agored tan 2009. Yn ddiweddarach sefydlodd Bridget ysgolion Llandeilo Abercywyn a Llandybïe. Noddwyd eglwys Llanllwch gan y teulu yn ogystal. Talodd John am ailgodi honno yn 1711. Fe’i claddwyd yno. Dengys y llun isaf y gofeb iddo. Bu John yn aelod o Gyngor Bwrdeisdref Caerfyrddin o 1702 tan 1722. Fe’i penodwyd yn siryf yn 1695 ac yn faer yn 1710.
Ei gyfraniad pwysicaf i’r ardal oedd ei waith dros addysg a Christnogaeth. Roedd yn un o arolygwr yr S.P.C.K. (Y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol). Gyda chefnogaeth y gymdeithas honno sefydlwyd ysgolion led led Sir Gaerfyrddin er mwyn i blant mewn ardaloedd tlawd dderbyn addysg ac i ddysgu am hanfodion y ffydd.
Gweithiodd John, yn ogystal, i wella’r amodau mewn carchardai. Ymdrechodd i sicrhau gwell amodau byw i’r tlodion ac anogodd oedolion i ddysgu trwy ddarllen, yn enwedig yn y Gymraeg. Sefydlodd lyfrgelloedd i fenthyg llyfrau am ddim a noddodd amryw awduron. Cefnogai nod yr S.P.C.K. o sefydlu llyfrgelloedd ym mhob plwyf, nid ar gyfer offeiriaid ac athrawon yn unig - ei ddymuniad oedd “i drigolion pob plwyf gael darllen y llyfrau yn y llyfrgelloedd Cymraeg”.
Roedd argraffiad John Rhydderch o Ganwyll y Cymry Rhys Pritchard wedi’i gyflwyno i John Vaughan ac yn canmol ei waith dyngarol, ei gyfraniad i addysg a’i gefnogaeth i’r iaith Gymraeg. John Vaughan oedd “prif noddwr llyfrau Cymraeg yn ne Cymru, ac yn wir,drwy’r wlad benbaladr”. Roedd yn gyfrifol am ddosbarthu miloedd lawer o lyfrau, gan gynnwys Beiblau, ynghyd â phamffledi a phregethau, ac ef oedd “y ddolen gyswllt rhwng yr S.P.C.K. yn Llundain a’r Cymry a oedd yn elwa o’r cyhoeddiadau”.
Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin.
Cod post: SA33 5DT Map y lleoliad