Capel Heol Dŵr, Canolfan Heol Dŵr heddiw, Heol Dŵr, Caerfyrddin

Adeiladwyd y capel hwn yn 1831 ar safle lle roedd gŵr o weledigaeth, sef Peter Williams, wedi agor ei dŷ yn y ddeunawfed ganrif er mwyn i Anghydffurfwyr addoli yno. 

Roedd y cynnydd yn nifer ysgolion cylchynol elusennol Griffith Jones (a oedd yn cynnig addysg i blant mewn ardaloedd gwledig) yn y 1730au wedi creu galw am Feiblau Cymraeg, galw a oedd yn anodd i’w ddiwallu. Yn y 1760au ysgrifennodd Peter Williams esboniad ar bob pennod yn y Beibl. Wrth wneud hynny, creodd gyfrol o fath gwahanol a olygai nad oedd yn cael ei atal mwyach gan hawl unigryw Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i argraffu’r Beibl. Roedd modd argraffu ei fersiwn ef yma yng Nghaerfyrddin.

Photo of a Peter Williams BibleDaeth Caerfyrddin yn dref o bwys ym maes argraffu, yn enwedig o ran argraffu deunyddiau crefyddol. Argraffwyd y fersiwn newydd hwn o’r Beibl gan John Ross, argraffydd yn Heol Awst. Er mwyn ysgafnhau’r gost cyhoeddwyd ‘Beibl Peter Williams’ yn bymtheg o rifynnau fesul deufis o Ionawr 1768 a hynny am swllt y rhifyn. 

Rhaid oedd sicrhau digon o danysgrifwyr - cannoedd ohonyn nhw fel rheol - cyn mentro cyhoeddi llyfrau. Erbyn 1770 roedd 7,000 o danysgrifwyr ar gyfer y fersiwn newydd hwn o’r Beibl (yn un gyfrol). Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf o 8,600 yn ei gyfanrwydd mewn byr dro. Argraffodd John Ross dri argraffiad i geisio ateb y galw amdanyn nhw.

Woodcut drawing of interior of Capel Heol Dwr in 1813Daeth cartref Peter Williams yma i fod yn dŷ cwrdd ar gyfer addoli yn y Gymraeg a chafwyd cynnydd sydyn yn niferoedd y gynulleidfa. Cododd gapel yng ngardd ei dŷ ond ymhen rhai degawdau roedd hwnnw hyd yn oed yn rhy gyfyng. Ehangwyd yr adeilad sawl gwaith. Mae’r torlun pren o waith Hugh Hughes, mab yng nghyfraith y Parch. David Charles, yn dangos y capel wedi iddo gael ei ailgodi yn 1813. 

Roedd David Charles, blaenor yn y capel, yn frawd i‘r Methodyn amlwg Thomas Charles. Roedden nhw ill dau am hybu Ysgolion Sul er mwyn parhau â gwaith yr ysgolion cylchynol. Yn sgil y galw, codwyd adeilad y tu ôl i gapel Heol Dŵr i gynnal ysgolion Sul.

Yn 1905 anogodd gweinidog y capel y Parch. M. H. Jones sefydlu cymdeithas ar gyfer ymchwilio a hybu hanes Sir Gaerfyrddin. Ffurfiwyd The Carmarthenshire Antiquarian and Field Club. Bron 120 o flynyddoedd yn ddiweddarch, mae olynydd y gymdeithas honno wedi datblygu Goleuni Sir Gâr, cynllun sy’n cynnwys taith hunandywys o gwmpas y safleoedd allweddol sy’n amlygu cyfraniad y sir at weddnewid addysg a llythrennedd yng Nghymru. 

Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1RG    Map y lleoliad

button-tour-CE previous page in tournext page in tour