Eglwys St Maelog, Llandyfaelog, ger Cydweli
Mae rhan helaeth o’r eglwys yn perthyn i’r canol oesoedd. Yn y fynwent mae bedd yr arweinydd Methodistaidd Peter Williams (gw. isod).
Y gangell yw’r darn cynharaf o’r eglwys sydd wedi goroesi ac yna’r bwa o’r bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n arwain at gorff yr eglwys a hwnnw’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn ogystal. Mae’r porth isel gorllewinol, ganrif yn ddiweddarach na hwnnw. Adnewyddwyd yr eglwys a’i newid yn y 1860au. Gwaith yr artist Syr Edward Byrne -Jones yw’r gwydr lliw yn y ffenest ddwyreiniol. Roedd yn artist a chynllunydd o ddylanwad, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r fangre hon yn un o nifer o safleoedd ar ein taith sy’n adrodd hanes Goleuo Sir Gâr yn y ddeunawfed ganrif. Daeth Cymru yn un o genhedloedd mwyaf llythrennog Ewrop trwy ymdrechion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Er ei fod yn eglwyswr pybyr caiff ei gydnabod yn dad Methodistiaeth yng Nghymru gan iddo ysbrydoli llawer o arweinwyr cynnar y mudiad gan gynnwys y Parch. Peter Williams (1723-1796).
Wedi i’r eglwys wladol (Eglwys Loegr) wrthod urddau llawn iddo oherwydd tanbeidrwydd (enthiwsiasm) ei bregethu, ymunodd Peter Wiliams â’r Methodistiaid yn 1747 a dod yn amlwg yn y mudiad. Priododd yn 1748 a thrigo mewn sawl lle yn ardal Llandyfaelog. Teithiodd yn helaeth led led Cymru yn pregethu’r Efengyl. Ymosodwyd arno droeon, gan gynnwys Cydweli, lle y gallasai fod wedi cael niwed difrifol oni bai i’w wraig, Mary, ymyrryd.
Mae llechen ar fedd Peter sy’n cynnwys teyrnged iddo (gw. y map isod am ei leoliad). Cofir amdano heddiw yn bennaf am ei waith aruthrol yn cyhoeddi ‘r Beibl mewn ffurf a ddiwallai anghenion Cymru. Wrth gynnwys esboniad ar bob pennod o bob llyfr yn y Beibl llwyddodd Peter i osgoi’r rheolau cyhoeddi a fodolai ar y pryd fel bod modd argraffu’r Beibl yn ddigon rhad i bobl gyffredin allu ei brynu.
Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif roedd copi o Feibl Peter Williams yn ymron pob cartref, eglwys a chapel yng Nghymru. Ond cododd un sylw a wnaeth ar Ioan 1:1 anghyfod rhyngddo ef ac arweinwyr eraill y Methodistiaid. Esgymunwyd ef gan y mudiad (wedi’i gyhuddo o Sabeliaeth) ac er iddo ef a’i gefnogwyr wneud sawl apêl bu farw heb dderbyn pardwn.
Y tu fewn i’r eglwys mae cofeb (yn y llun) iddo ar y wal ogleddol. Dadorchuddiwyd hwnnw yn 1923 gan A. H. Green, esgob Mynwy, un o ddisgynyddion uniongyrchol Peter Wiliams. Mae copi gwreiddiol o Feibl Peter Williams o 1770 yn cael ei arddangos mewn dodrefnyn derw.
Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA17 5PP Map y lleoliad