Peter Williams a phentref Llandyfaelog, ger Cydweli

LlandyfaelogLlandyfaelog ‘eglwys St Tyfaelog’: llan tir agored; tir caeedig i ddiogeli cynnyrch ac eiddo; tir cysegredig, eglwys, a’r enw personol Tyfaelog. Mae’r enw personol yn cynnwys elfen sy’n dynodi parch sef ty- ynghlwm wrth yr enw personol Maelog sy’n digwydd ym Muchedd Gildas (a grewyd yn y 6ed ganrif). 

Llandyfaelog yw gorffwysfan olaf y Parch. Peter Williams (1723-1796). Mae’n enwog am gynhyrchu fersiwn o’r Beibl a oedd, o ran cost, o fewn cyrraedd i’r werin. Bu copi ohono mewn cartrefi ledled Cymru. 

Ac yntau’n ŵr ifanc athro oedd Peter Williams. Bu’n dysgu mewn ysgolion gan gynnwys ysgolion cylchynol elusennol yn Sir Gaerfyrddin. Parhaodd i ddysgu ym Mancycapel gerllaw Llandyfaelog ac yn festri Llandyfaelog sydd wedi’i adnewyddu bellach gan y perchen presennol. Cawsai Peter Williams ei ordeinio’n ddiacon ond wedi iddo ôl gael ei ddiswyddo o dair curadiaeth oherwydd tanbeidrwydd ei bregethu (ei enthiwsiasm), bu’n bregethwr teithiol gyda’r Methodistiaid o 1746 ymlaen. 

Pan nad oedd yn teithio, byddai Peter yn lletya ym Mhibwr-lwyd, Caerfyrddin, gyda David Bowen. Daeth ŵyr Dafydd Bowen, Thomas Charles, yn Fethodist dylanwadol. Priododd Peter â Mary Jenkins yn 1748 a rhentu Moelfre, ger Caerfyrddin, ond cawsant eu troi allan pan glywodd y perchen am Fethodistiaeth Peter. Dychwelodd y ddau i Bibwr-lwyd ac yna,tua 1760, rhentu Gellilednais ger Llandyfaelog. Fferm oedd hon wedi’i lesio gan dad Mary. Peter fu wrthi’n trin y tir ac yn gwella ei gyflwr.

Old drawing of Woodbine Cottage, LlandyfaelogYmhen y rhawg cafodd Woodbine Cottage (a welir yn yr hen lun) a chododd bulpud yno a chreu’r tŷ cwrdd cyntaf yn y pentref ar gyfer y Methodistiaid. Dywedir iddo gwrdd â’r eglwyswyr ym mynwent yr eglwys wedi’r gwasanaeth boreol a’u gwahodd i’w gyfarfodydd ef. Yn Woodbine Cottage y lleolwyd Sywddfa Bost y pentref yn ystod y 1970au a’r 1980au.

Wrth i’r gynulleidfa gynyddu, sefydlodd Peter Williams y capel Methodistaidd cyntaf yn y pentref yn 1780. Ailadeiladwyd y capel yn 1844 a’i gau ar gyfer addoli yn 1981. Ym mhlwyf Llandyfaelog ei hun cafodd Peter Williams ganiatâd gan y ficer i ddefnyddio yr hen gapel anwes yn Llangynhaeddon, Bancycapel yn dŷ cwrdd – ac erbyn hyn dyma leoliad Capel Methodistaidd Bancycapel. 

Er iddo hyrwyddo achos Methodistiaeth hyd eithaf ei allu, esgymunwyd Peter yn dilyn anghydfod ynglŷn ag un dehongliad ganddo o’r Beibl. Dychwelodd i Landyfaelog ddiwedd ei oes a’i gladdu ym mynwent St Maelog. 

Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA17 5PP    Map y lleoliad

button-tour-CE previous page in tour