Plas Mawr, Conwy

button-theme-history-for-all-W

British Sign Language logoPlas Mawr, Y Stryd Fawr, Conwy

Plas Mawr yw un o dai tref harddaf y DU sydd wedi goroesi o Oes Elisabeth. Mae nodweddion gwreiddiol trawiadol yn cynnwys décor plastr coeth y tu mewn i’r adeilad.

Adeiladwyd o 1576 ymlaen i Robert Wynn (g.1520-1598). Ef oedd trydydd mab John Wyn ap Maredudd wnaeth etifeddu tir yn Nyffryn Conwy oedd yn eiddo Abaty Aberconwy (ar ôl adleoli o Gonwy i Faenan). Roedd Robert yn rhy ifanc i etifeddu cyfoeth ei dad. Wrth wasanaethu'r uchelwyr Tuduraidd fe deithiodd ledled Prydain a thramor lle bu’n dyst mae’n debyg i sawl brwydr. Roedd o’n gloff ar ôl anaf i’w goes mewn gweithgaredd filwrol yn Ffrainc.

conwy_plas_mawr_1962Buddsoddodd rhan o'i gyfoeth i fod yn berchennog rhannol ar long a oedd yn mewnforio gwin Ffrengig trwy Gonwy cyn iddo ddechrau prynu'r tir oedd ei angen arno i adeiladu ei gartref newydd rhodresgar yn y dref. Adeiladwyd Plas Mawr mewn tair oes gan ddechrau ar ran uchaf y safle. Y rhan sy’n wynebu’r Stryd Fawr yw’r porthdy a gafodd ei ychwanegu yn 1585. Gallwch weld y fynedfa a adeiladwyd cyn 1585 hanner ffordd i fyny Heol y Goron.

Roedd gan Robert saith o blant gyda’i ail wraig Dorothy. Claddwyd ef mewn beddrod nodedig yn Egwlys y Santes Fair, Conwy. Ymhen amser fe gafodd Plas Mawr ei basio ymlaen drwy briodas i deulu Mostyn oedd yn eiddo llawer o gartrefi eraill.  O’r 18fed ganrif, cafodd y tŷ ei rannu’n nifer o gartrefi i’w gosod i deuluoedd lleol. Gallwch ddarllen am hynny ar ein tudalen am fedd un o'r trigolion, Hephzibah Williams (m.1824).

Roedd y porthdy yn Lys am gyfnod. Hefyd yn rhan o’r tŷ bu ysgol babanod (gyda’r gofalwr a dau athro yn byw yn y porthdy) o 1836 i 1886, pan gymerodd y Royal Cambrian Academy of Art yr adeilad drosodd gyda chefnogaeth yr Arglwydd Mostyn. Cynhaliodd RCA arddangosfeydd yn yr adeilad ond roedd y gwaith cynnal a chadw yn ormod o faich ac ym 1993 fe symudodd yr RCA i gapel wedi'i throsi (tu ôl i Plas Mawr). Mae’r llun, gan y diweddar Hugh Pritchard, yn dangos rhan o Blas Mawr ym 1962.

Atgyweirwyd Plas Mawr yn ofalus gan Cadw. Mae’r gwyngalchu allanol wedi ail-greu'r hyn oedd yn gorchuddio'r wal yn wreiddiol er bod hynny wedi achosi dipyn o fraw ymysg preswylwyr lleol oedd wedi arfer gyda'r gwaith cerrig moel!

Cod post : LL32 8DE    Map

Plas Mawr ar wefan Cadw