Pont Sling, Llanfaglan
Sling yw’r enw ar yr ardal yma ar lafar ers sawl cenhedlaeth gan bobl Y Bontnewydd a Llanfaglan. Enw’r cae ble mae sylfaen ddeheuol y bont yma heddiw yw tarddiad yr enw.
Gwelwn enw’r cae ar fap stad Glynllifon o 1799, ond erbyn map y degwm (1843) gwelwn fod y cae wedi ei uno a’r cae nesaf. Mae’r enw wedi ei gadw ar lafar ers y cyfnod yma.
Ystyr sling yw llain o dir. Gelwir y rhan yma o’r nant fechan gerllaw, sydd yn ffinio plwyf Llanfaglan a’r Bontnewydd heddiw, yn afon Sling, ond nid oes enw iddi fel nant ar ei hyd.
Mae’r enw Llanfaglan yn dynodi eglwys neu amgaead Sant Baglan. Cliciwch yma am ein tudalen we am yr eglwys ganoloesol, a saif mewn cae arfordirol i'r gorllewin o'r fan hon.
Cofnodwyd yr enw Y Bontnewydd yn y 1530au ac yn ddiweddarach. Mae'n cyfeirio at y bont dros afon Gwyrfai ar y ffordd fawr drwy'r pentref. Y Bontnewydd yw’r enw llawn ond yn gyffredin mae’r fannod bendant ‘y’ yn cael ei hepgor.