Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

Credir bod yr eglwys anghysbell hon, nad yw bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer addoli, ar safle cyn-Gristnogol. Mae'n cynnwys carreg o'r 5ed neu'r 6ed ganrif gydag arysgrif arni â geiriau Brythoneg. Gallwch gerdded ar draws y cae i’r eglwys ond cadwch glwyd y fynwent ar gau.

Aerial photo of St Baglan's Church showing lines of ditches in fields
Llun arolwg o'r awyr o 2005. Mae’r llinellau tywyllach yn
y caeau yn dynodi ffosydd cynhanesyddol.
Gyda diolch i'r CBHC a'i wefan Coflein

Datgelwyd tystiolaeth o anheddiad cynhanesyddol hwyr yma yn ystod haf sych 2005. Dangosodd arolygon o'r awyr gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru linellau lle'r oedd haidd wedi aeddfedu ar gyfradd twf wahanol oherwydd bod ffosydd wedi eu cloddio yno yn y cyfnod cynhanesyddol i greu amgaeadau. Mae un llinell yn cyfateb i ffin wreiddiol mynwent yr eglwys (a ehangwyd yn ddiweddarach). Mae amgaeadau llai yn ymestyn o'r fynwent.

Mae'r eglwys garreg yn rhestredig Gradd 1. Mae corff yr eglwys yn dyddio o tua'r 13eg anrif. Ychwanegwyd y rhan ddeheuol yn hanner cyntaf yr 16eg ganrfit, a'r porth yn negawd cyntaf y 19eg ganrif.

Mae dwy garreg a goafdd eu cerfio â chroesau yn y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif yn ffurfio top a sil agoriad yn y porth. Efallai mai cerrig beddi oeddent. Mae’r sil hefyd yn cynnwys cerfiad o gwch gyda phen blaen a starn uchel - hen garreg fedd morwr o bosibl.

Uwchben y drws mae carreg fedd wedi'i hailgylchu a gerfiwyd yn y 5ed neu'r 6ed ganrif gyda'r enw Anatemori (neu Anatemorios), mab Lovernius. Enaidfawr yw Anatemori yn Gymraeg cyfoes. Mae Lovern neu Lowern yn Llydaweg neu Gernyweg am ‘lwynog’.

Ni wnaeth y Fictoriaid ailadeiladu’r eglwys, gan ei gadael fel cofnod gwych o bensaernïaeth eglwysig gynharach. Nodweddion nodedig yw'r corff heb ffenestr a'r gosodiadau mewnol o'r 18fed ganrif. Mae rhai o'r llociau pren wedi'u nodi ag I/DM 1767. Roeddent yn perthyn yn wreiddiol i David a Margaret Jones, Cefn Coed.

Mae'r eglwys wedi'i chysegru i Sant Baglan ap Dingad, y credir iddo fyw yn y 6ed ganrif. Daeth yn abad Ynys Enlli (ynys Enlli), a bu gynt yn Llancarfan, Morgannwg.

Ni chafodd yr eglwys ei defnyddio ar ôl i addoldai gael eu hadeiladu mewn mannau mwy cyfleus. Dim ond un gwasanaeth Sul y flwyddyn oedd yma erbyn dechrau'r 20fed ganrif. Bellach mae gwirfoddolwyr o Gyfeillion Eglwysi Digyfaill yn cynnal a chadw'r adeilad.

Yn 2017 claddwyd yr Arglwydd Snowdon yn y llain deuluol yno. Roedd yn ffotograffydd adnabyddus o enwogion, a phriododd y Dywysoges Margaret, chwaer y Frenhines Elizabeth II. Yr oedd ei deulu yn berchen ar Blas Dinas, ger Bontnewydd. Mae taid a nain ffotografydd o fri arall, sef Philip Jones Griffiths, wedi’u claddu yma. Roeddent yn byw yng Nghae Glas yn Llanwnda.

Diolch i Ifor Williams

Map  

Mwy am yr eglwys – Gwefan 'Friends of Friendless Churches'

Mwy am yr amgaeadau – gwefan Coflein

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button