Pont yr Aber a Choed Helen, Caernarfon

Pont yr Aber a Choed Helen, Caernarfon

Mae'r bont hon yn troi i un ochr i ganiatáu cychod i fynd i mewn neu allan o'r harbwr. Cymerodd le pont Fictoraidd a oedd ei hun wedi disodli fferi ar draws yr afon Saint. Mae'n arwain o dref Caernarfon i barc Coed Helen.

Photo of original swing bridge at Caernarfon
Y bont swing gyntaf, trwy garedigrwydd y CBHC a'i wefan Coflein

Adeiladwyd yr adeilad bychan gyda thop castellog, i'r gorllewin o'r bont, ym 1822 ar gyfer gweithredwr fferi Coed Helen. Y teulu Pritchard y berchnogion cychod ac adeiladwyr oedd yn rhedeg y fferi o tua 1859. Ym 1878 canmolwyd Dafydd Pritchard (Dafydd ‘Rabar) am ei gamau prydlon i achub milwr gwirfoddol a syrthiodd rhwng y cei a’r cwch wrth fyrddio. Bu farw Dafydd, yn 76 oed, yn 1884 a’i gladdu yn Eglwys Llanfaglan.

Cwblhawyd y bont swing gyntaf, sef Pont yr Aber, ym 1899, ynghanol dadlau dros iawndal am golli'r fasnach fferi. Injan nwy oedd yn pweru'r mecanwaith swing. Roedd y bont yn rhy fach i gyfiawnhau pŵer hydrolig, a fyddai wedi bod yn ddelfrydol.

Paentiwyd y gwaith metel â “lliw carreg” (llai gwyn) i leihau amsugnad gwres o heulwen. Byddai gwres gormodol wedi ystumio pennau'r rhychwant siglen. Cafodd paent gwyn ei wrthod gan y byddai wedi edrych yn fudr yn fuan. Codwyd tollau ar gerddwyr a cherbydau.

Mae’r llun o’r bont, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn rhan o ddelwedd fwy o Gasgliad Ffotograffaidd o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Disodlwyd y bont gan y bont bresennol i gerddwyr ym 1970. Gallwch weld darnau o ffram bren o’r bont wreiddiol o hyd wrth i chi groesi.

Roedd lôn yn arwain o'r fferi i dŷ Coed Helen, y credir ei bod yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif. Roedd y tŷ yn perthyn i olyniaeth o deuluoedd dylanwadol ac mae bellach yn rhan o faes carafanau.

Ar y bryn rhwng yr afon a'r tŷ saif hafdy, a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Ar wahanol adegau, roedd y fyddin yn defnyddio'r ardal i hyfforddi a chadw gwyliadwriaeth ar y Fenai. Taniwyd batri o ynnau yng Nghoed Helen ar adegau pwysig, gan gynnwys yn 1847 i gyfarch y Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert a'u plant.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button