Hen gei llechi, Caernarfon

Hen gei llechi, Caernarfon

caernarfon_quay_ships_and_castleDros tri degawd cyntaf y 19eg ganrif, adeiladwyd glanfeydd newydd ar lan yr afon Seiont ar gyfer yr allbwn cynyddol o lechi a mwynau eraill. Roedd yr allbwn yn bennaf yn cael ei gludo i’r cwsmeriaid gan longau. Ar gyfer ehangu’r cei yn 1817, tynnwyd llawer o bridd o’r banc a arweiniai i lawr i'r lan o’r Maes. Codwyd waliau cynnal uchel i gymeryd lle’r banc.

Agorwyd Rheilffordd Nantlle ym 1826, gan rhoi hwb i allforion llechi o Gaernarfon. Eginodd diwydiannau trwm eraill yn y cyffiniau. Ond roedd yna bris: byth eto y gwelwyd yr olygfa hardd o'r castell a’i draed yn ymyl y dŵr, golygfa a fwynhaodd y twristiaid cynharaf yng Nghaernarfon. Dengys y lluniau y castell a llongau wrth y cei llechi yn y 1890au.

Symudodd masnach leol i’r Doc Fictoria newydd yn 1875 ond parhaodd y fasnach lechi yma. Yn 1916 aeth pump o fechgyn, rhwng saith a 10 oed, ar fwrdd llong o'r enw Breeze yma a chynnau tân yn y caban – er mwyn gwneud te! Diffoddon nhw’r tân wrth i berchennog y llong, John Humphreys, ddychwelyd. Roedd bara a the ar goll, a dirwywyd y bechgyn yn ddiweddarach.

caernarfon_slate_quay_and_castleCodwyd swyddfa'r harbwr ym 1840 ar y cei llechi, a oedd erbyn hynny wedi dod yn ganolbwynt i’r diwydiant llongau yng Nghaernarfon. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon yn dal i weithredu o’r adeilad heddiw.

Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1793, pan roddodd Deddf Seneddol yr awdurdod ar gyfer gwella ac ehangu harbwr Caernarfon harbwr. Yn y dyddiau hynny, roedd yr harbwr yn bennaf i'r gorllewin ac i'r gogledd o'r dref gaerog. Fodd bynnag, caniataodd a deddf angorfeydd newydd wrth aber y Seiont, i'r de o'r castell.

Heddiw maes parcio i ymelwyr ydi’r cei llechi yn bennaf, wedi’i leoli yn gyfleus islaw muriau’r castell. Mae’r hen gledrau rheilffordd yn ger wal y cei yn ein hatgoffa o fwrlwm y gorffennol.

Côd post: LL55 2PB    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button