Y Foryd a Chaer Belan, Llanfaglan
Y Foryd a Chaer Belan, Llanfaglan
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn glan ddwyreiniol Y Foryd, sef aber afonydd Gwyrfai a Charrog. Gyferbyn mae penrhyn gyda Chaer Belan ar ei ben ogleddol.
Mae Y Foryd yn Warchodfa Natur Leol. Mae’r gwastadeddau llaid a’r tywod yn cael eu cysgodi gan dir ar bob ochr, gan gynnwys tafod o dir o’r enw Penrhyn Mulfran sy’n culhau ceg yr aber. Mae adar cynhenid ac ymfudol yn bwydo yma mewn niferoedd mawr, gan gynnwys heidiau o tua 5,000 o chwiwellau.
Adeiladwyd Caer Belan yn y 1770au gan yr AS lleol a thirfeddiannwr Thomas Wynn mewn ymateb i fygythiad canfyddedig i dir mawr Prydain yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Yno fe gadwai garsiwn o filwyr Milisia Sir Gaernarfon. Roedd gan y gaer fatri o ganonau.
Daeth y gaer yn gartref preifat yn y 1820au. Roedd y doc cyfagos yn gartref i gwch hwylio'r teulu i gychwyn.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Caer Belan gan fataliwn lleol y Gwarchodlu Cartref a chan griwiau badau cyflym yr Awyrlu (RAF) a oedd yn barod i achub dynion petai awyrennau o feysydd awyr lleol yn syrthio i Fôr Iwerddon neu’r Fenai. Mae’r awyrlun o Awst 1945, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y gaer ar y top. Ar y gwaelod mae'r batri gwn adeg y rhyfel oedd yn amddiffyn yr arfordir a maes awyr Llandwrog gerllaw. Mae’r dotiau llwyd wrth ei ymyl yn graterau o gael gwared ar faes ffrwydron (“minefield”) – rhan o fesurau gwrth-oresgyn yr ardal.
Ar ôl y rhyfel, atafaelwyd miloedd o arfau rhyfel marwol yr Almaen yn cynnwys y cymegyn nerfol Tabun. Cafodd tua 71,000 o’r dyfeisiau angheuol hyn eu storio mewn awyrendai yn y maes awyr – gweler y llun ar ein tudalen am faes awyr Llandwrog – nes iddynt gael eu llwytho fesul tipyn ar longau glanio’r Llynges Frenhinol ger Caer Belan. Cludwyd yr ordnans i Cairnryan, yr Alban, lle cafodd ei drosglwyddo i long cargo i’w ddympio yn yr Iwerydd, 400km i'r gorllewin o’r Hebrides Allanol. Cwblhawyd y weithdrefn, Ymgyrch Sandcastle, ym 1955. Gwerthodd y Wynniaid y gaer ym 1992 i'r teulu Blundell, a fu’n ei defnyddio fel canolfan ar gyfer archwilio bywydeg y môr. Ers 2004 mae Cymdeithas Cyfeillion Belan wedi bod yn helpu i adfer y gaer a'r doc. Mae gan y safle lety hunanarlwyo ac mae'n lleoliad priodas.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front , Llandudno
Cod post: LL54 5TP Map