Pont Vivian, Gilfach Ddu, Llanberis

sign-out

Pont Vivian, Gilfach Ddu, Llanberis

Pont Vivian yw enw'r bont uchel dros y rheilffordd ger hen ysbyty'r chwarel. Fe'i hadeiladwyd i gludo cerrig gwastraff o Chwarel Vivian at lan y llyn, lle byddai'n cael ei adael.

Photo of Gilfach Ddu in 1902 with Pont Vivian in distance
Gilfach Ddu ym 1902, gyda Pont Vivian yn y pellter
Royal Collection Trust / © Her Majesty Queen Elizabeth II 2022

Cyn hynny, byddai'r gwastraff o'r chwarel yn cael ei gludo at lan y llyn ar hyd pont hir, oedd yn arwain yn uniongyrchol o'r incleiniau cyfres-V - gweler yr hen ffotograff ar ein tudalen am yr incleiniau.

Adeiladwyd trac rheilffordd o'r incleiniau tuag at yr ysbyty tua 1900. Roedd yn croesi Pont Vivian i gyrraedd safle newydd i waredu gwastraff. Mae'r bont yn strwythur uchel o garreg gydag agorfa fach ar y gwaelod ar gyfer Rheilffordd Padarn, sef Rheilffordd Llyn Padarn erbyn hyn.

Mae'r ffotograff ar y dde yn dangos Gilfach Ddu adeg ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru ym 1902. Ar y chwith gwelir adeilad gweithdy'r chwarel sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru. Mae Pont Vivian i'w gweld yn y pellter – bryd hynny nid oedd y pen sy’n wynebu'r llyn wedi'i guddio gan y domen anferth o gerrig gwastraff.

O Bont Vivian gallwch weld sied locomotifau Rheilffordd Padarn.  Roedd y sied yn darparu lloches dan do ar gyfer locomotifau ager a gyrhaeddodd yn y 1880au a'r 1890au. Roedd y tri locomotif newydd yn disodli’r ddau wreiddiol a adeiladwyd yn y 1840au, ac ni chawsant eu disodli cyn i'r rheilffordd gau ym 1961. Roeddynt yn fwy na locomotifau ager Rheilffordd Llyn Padarn, sy'n rhedeg ar reilffordd lled culach na'r hen Reilffordd Padarn.

Wrth edrych o'r bont ar hyd y lan, mae'r rhan fwyaf o’r tir a welwch hyd at adeilad yr amgueddfa wedi'i ffurfio o garreg gwastraff. Roedd glan y llyn yn arfer bod yn agos at lwybr y rheilffordd. Heddiw, mae gorsaf y rheilffordd wedi'i lleoli ger yr hen gei a ddefnyddiwyd i lwytho llechi i gychod yn ystod y cyfnod cynnar o gloddi am lechi yn y llethrau uwchlaw, yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Diolch i Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol am y ffotograff.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Cod post: LL55 4TY    Map

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour