Porth Trefadog, Llanfaethlu

button-theme-crimebutton-theme-womenRoedd y rhan hon o’r arfordir yn leoliad llawer o ddrama, fel yn 1847 pan draethodd llong cargo o'r Iseldiroedd yma wrth fynd â halen craig o Lerpwl i'r Iseldiroedd. Roedd ymestl wedi rhwygo'r hwyliau’n garpiau a chollwyd bad achub y llong. Collwyd un morwr dros ei bwrdd, a chafodd y capten ei anafu'n ddifrifol gan y llyw.

Old postcard showing Porth TrefadogBum mlynedd yn ddiweddarach gyrrodd storm stemar i'r lan. Rhuthrodd pobl leol Trefadog allan mewn cychod bach i helpu. Cafodd pob teithiwr a chriw eu hachub, er i’r cargo o wartheg a moch gael ei golli.

Llwyddodd trigolion Llanfaethlu i osgoi teithiau cylchol ar y ffordd trwy ddefnyddio'r llwybr fferi o Drefadog i Gaergybi, lle enwyd tafarn yn Trefadog Ferry Inn. Parhaodd cychod fferi ar ôl i Arglawdd Stanley wella cysylltiadau ffordd â Chaergybi yn 1823. Ym mis Hydref 1854 collodd dau o bobl leol y cwch yn ôl o Gaergybi gan logi cwch bach gyda dau griw. Wrth nesáu at Trefadog, cafodd tri eu cipio gan don sydyn, ac yna'r criwman David Hughes yn fuan wedyn. Boddodd y pedwar, er i ddynion Trefadog rwyfo allan i'r fan ar ôl sylwi ar y drafferth. Dafydd oedd yr unig gorff a adferwyd.

Cafodd Trefadog, y ffermdy mawr ger y bae, ei ailadeiladu yn y 18fed ganrif, gan ymgorffori tŷ neuadd ffrâm nenfforch canoloesol. Yn 1909 roedd ei feddiannwr, Catherine Owen, yn destun y pennawd Two Thousand Love Letters mewn papur newydd. Roedd hi a Dr John Thomas Price o Ben yr Orsedd, Llanfaethlu, yn ffrindiau plentyndod ac yn dyweddio yn 1902. Roedd Catherine yn rhedeg y fferm 165 erw tra symudodd John i ffwrdd i sefydlu ei yrfa fel meddyg cyn ei phriodi.

Ysgrifennodd John "y llythyrau mwyaf annwyl, byth yn methu â sicrhau ei ddyweddi o'i gariad". Ym mis Hydref 1908 datganodd ei fod yn gobeithio priodi ei "annwyl Kitty" yr haf nesaf, ond ddeufis yn ddiweddarach dywedodd wrth Catherine, oedd yn 31 oed: "Mae gen i ofn, i fod yn ddidwyll gyda chi, nad ydw i’n dy garu."

Mynnodd ddychwelyd ei fodrwy ddyweddïo, gan egluro: "Rydyn ni i gyd yn dueddol i newid, ac rydw i wedi newid." Yn fuan priododd Jenny Evans, 19, merch i feddyg yr oedd wedi prynu ei bractis. Cymerodd Catherine gamau "torri addewid" i'r llys, ble dywedodd y siryf bod ei hymgysylltiad wedi para trwy ei "blynyddoedd priodas" ac nad oedd hi "werth cymaint heddiw yn y farchnad briodasol". Bu'n rhaid i Dr Price dalu £500 o iawndal iddi - dros £60,000 yn arian heddiw.

Diolch i Dr Hazel Pierce o The History House, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL65 4PE    Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button