Amgueddfa Forwrol Porthmadog
Amgueddfa Forwrol Porthmadog
Mae'r amgueddfa y tu mewn i’r unig warws llechi i oroesi wrth ymyl yr harbwr. Yma gallwch weld offer, mapiau, darluniau, llongau model ac arddangosion eraill sy'n ymwneud â threftadaeth forwrol gyfoethog Porthmadog.
Adeiladwyd y warws isel hir yng nghanol y 19eg ganrif ar yr Oakeley Wharf, a enwyd ar ôl un o'r chwareli llechi mwyaf ym Mlaenau Ffestiniog. Cafodd yr adeilad ei rannu'n 10 ystafell heb unrhyw wal allanol ar yr ochr ddwyreiniol, lle y mae bellach waliau pren neu ffenestri. Nesaf at yr adeilad, yn y pen gogleddol, saif hen dŷ a swyddfa y rheolwr a oedd yn gyfrifol am lwytho’r llechi ar y llongau.
Crewyd glanfeydd cyntaf Porthmadog ym 1825, 14 mlynedd ar ôl William Maddocks adeiladu'r Cob ar draws ceg yr aber Glaslyn. Yn fuan ar ôl ei dargyfeirio, sgwriodd yr afon harbwr naturiol newydd. Gydag agor Rheilffordd Ffestiniog ym 1836, roedd yn hawdd cludo llawer iawn o lechi at y glanfeydd o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog. Daeth rheilffyrdd cul eraill yn ddiweddarach, i gysylltu chwareli eraill â'r porthladd.
Adeiladwyd bron i 300 o longau ym Mhorthmadog a Borth-y-gest. Yr olaf ohonynt oedd Y Gestiana anffodus, a gwblhawyd ym 1913. Cludai’r llongau lleol lechi i nifer o wledydd a dychwelodd i Ewrop gyda cargo amrywiol gan gynnwys ffosffadau o India'r Gorllewin a phenfras hallt o Newfoundland a Labrador. Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf daw ar adeiladu llongau ym Mhorthmadog, a chyflymodd y dirywiad yn yr allforion llechi. Llwythwyd y cargo llechi olaf ym 1948.
Parhaodd longau i alw yn y porthladd tan y 1980au. Galwai’r SS Florence Cooke, a adeiladwyd ar gyfer cludo ffrwydron o waith powdr Penrhyndeudraeth, yn rheolaidd i lwytho ffrwydron a dadlwytho cargo cyffredinol. Death offer trwm i mewn trwy harbwr Porthmadog ar gyfer adeiladu y atomfa Trawsfynydd a pwedrai eraill yn y 1960au a'r 1980au.
Côd post: LL49 9LU Map