Promenâd Pwllheli
Promenâd Pwllheli

Promenâd Pwllheli o'r gorllewin, trwy garedigrwydd Rhiw.com
Mae'r promenâd yma yn dyddio o amser pan allai rhywun digon cyfoethog ymroi i gynllunio a datblygu tref. Rhan oedd y promenâd o gynllun mwy gan y mentrwr Solomon Andrews i ddatblygu twristiaeth yn ardal Pwllheli.
Cafodd ei eni yn Wiltshire im 1835 cyn symud i Gaerdydd yn ei arddegau, gan weithio i ddechrau mewn siop pobi bara. Ei lwyddiant y myd tacsiau a bwsiau yng Nghaerdydd yn y 1860au a'i harweiniodd i ddatblygu tai ac anturiaethau eraill.
Yn Awst 1893 prynodd rannau o ystad Marian y De ym Mhwllheli. Roedd eisoes gan yr ardal sy'n cael ei hadnabod fel Marian y De, ar derfyn Ffordd y Cob, gwrs golff (a agorwyd ym 1891), siop a thafarn (1892), a swyddfa bost (1893), capel Methodist ac ystafelloedd cynnull, lle byddai Cymdeithas Welliannau Marian y De yn cynnal ei gyfarfodydd blynyddol.
Erbyn 1901 roedd gan Farian y De bromenâd a elwid yn Victoria Parade a Gwesty Marian y De, fel y gwelwch o'n tudalen am drychineb y boddi yn achos yr Ysgol Sul ym 1899.
Adeiladodd Solomon Andrews bromenâd gwahanol ym Marian y Môr, yr oedd Ffordd Caerdydd yn arwain iddo a Gwesty Marian y Môr, tai gwyliau, llwyfan band, maes chwarae hefo trac beiciau, ystafelloedd cynnull a gorsaf dramiau. Byddai ceffylau'n tynnu tramiau o Farian y Môr ar hyd yr arfordir i'w oriel gelf yng Nglyn-y-Weddw, Llanbedrog, lle mae un o'r tramiau'n cael ei harddangos. Daeth oes ffordd y tramiau i ben ym 1927 yn dilyn dinistr storm (parhaodd yr estyniad o Farian y Môr i ganol y dref am flwyddyn arall).
Bu farw Solomon ym 1908. Aeth llawer o'i ystad i'w fab hynaf, Emile. Parhaodd busnes y teulu, Solomon Andrews a’i Fab, i fod yn rhan bwysig o fywyd Pwllheli. Ym 1916 anfonodd 100 o sigarennau i bob gŵr o Bwllheli a oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd y promenâd yn cysylltu Marian y De a Marian y Môr. Roedd y rhan ganol yn dal heb adeiladau pan dynnwyd y llun awyr ym 1950. Mae'r llun yma o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a ddangosir yma drwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Gyda diolch i wefan Rhiw.com am yr hen gerdyn post, ac i’r Parchedig Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad
Cod post: LL53 5PN Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |