Gorsaf Reilffordd Pwllheli

sign-out

Gorsaf Reilffordd Pwllheli

Ymunodd Pwllheli â'r rhwydwaith reilffordd yn Hydref 1867, pan ddechreuodd trenau Rheilffordd y Cambria redeg i Borthmadog a Machynlleth, ac ymlaen i Whitchurch, Swydd Amwythig. Yr un pryd, cysylltodd y rheilffordd newydd â rheilffordd y Cambria yn Afonwen, gan hwyluso trenau i gyrraedd Pwllheli o Gaernarfon a'r brif reilffordd i Fangor.

Roedd gorsaf gyntaf  Pwllheli i'r dwyrain o'r dref. Cafodd y bianyddes Catherine Ann Parry, 18 oed, ei lladd yn ddamweiniol yno ar fin nos yn Awst 1889. Roedd hi wedi bod yn cyfeilio i Gôr Meibion Bethesda yn eisteddfod Gadeiriol Gwynedd ym Mhwllheli. Roedd yr orsaf yn orlawn wedi'r digwyddiad a chafodd hi ei gwthio gan y dyrfa a oedd o'r tu ôl iddi wrth i dren gyrraedd, gan achosi iddi syrthio o dan yr olwynion.

pwllheli_station_1909

Mae'r orsaf bresennol, a agorwyd ym 1909, yn dilyn adeiladu gorglawdd rheilffordd ar draws gogledd yr harbwr naturiol mewn man mwy canolog. Gwthiodd y gorglawdd y môr o dir y gogledd. Cyn hynny roedd y traeth yn ymestyn mor bell â Phenlan Fawr. Mae'r llun, trwy garedigrwydd Rhiw.com, yn dangos yr orsaf ym 1909.

Rhoddwyd adeilad pren yr orsaf gan Reilffordd y Cambria a hynny ar ongl sgwar i'r cledrau a welir heddiw. Roedd hefyd gwt injans bychan hefo bwrdd troi – er mwyn gwneud i'r cledrau droi a pheri i'r locomotifau wynebu'r ffordd arall ar gyfer eu taith nesaf. Mae'r bwrdd troi'n parhau yng ngorsaf Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf ym  Minehead, lle cafodd ei symud ym 1977.

O 1921 hyd 1967, Pwllheli oedd pen draw y daith i dren dymor haf urddasol, gyda cherbyn bwyta, a deithiai o Paddington, Llundain. Ym  1927 rhoddwyd i'r tren yr enw Tren Cyflym Arfordir y Cambria gan Reilffordd y Great Western (a gymrodd drosodd y Cambria ym 1923).

Ym 1900, cadarnhaodd y Cyngor Sir gynlluniau ar gyfer rheilffordd ysgafn a fyddai'n cyd-redeg â'r ffordd o Bwllheli i Nefyn, ond dechreuodd Rheilffyrdd y Cambria wasanaeth bws ym 1906. Aeth un o'r bysiau ar dân yn y sied ym Mhwllheli ym 1907, gan achosi cannoedd o bunnoedd o niwed, a gadael y gyrrwr. Thomas P. Roberts gyda llosgiadau i'w wyneb a'i ddwylo.

Caewyd rheilffordd Afonwen-Caernarfon ym 1964. Trafnidiaeth Cymru sydd yn awr yn yng ngofal tren fach Arfordir y Cambria gyda'i golygfeydd ysblennydd.

Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad

Cod post: LL53 5HG    Map

Gwefan Rhiw.com - mwy o hen luniau o Bwllheli a'r ardal 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button