Safle gwersyll gwyliau Butlin, Penychain, ger Pwllheli

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’r perchennog gwersylloedd gwyliau Billy Butlin yn gweithio i'r Weinyddiaeth Ryfel. Pan ofynnwyd iddo ddod o hyd i safle yng Nghymru ar gyfer gwersyll hyfforddi, cynigiodd adeiladu gwersyll ym Mhenychain ei hun ar yr amod y gallai ei brynu'n rhad ar ddiwedd y rhyfel.

Aerial photo of HMS Glendower, Pwllheli, in 1942Agorodd sefydliad hyfforddi HMS Glendower y Llynges Frenhinol yma yn 1940. Mae'r llun uchaf o'r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn ei ddangos yn 1942. Mae'r llun o aelodau’r Women’s Royal Naval Service a oedd â rolau gweinyddol yn HMS Glendower i'w weld yma trwy garedigrwydd Wyndham Underwood.

I ddechrau, bu hyfforddwyr y llynges yma yn cysgu mewn pebyll. Yn y pen draw, adeiladwyd 1,000 o gabanau, a champfa, neuadd gyngerdd a sinema. Yn y flwyddyn gyntaf bu 8,000 o ddynion yn hyfforddi yma. Cafodd recriwtiaid eu postio i un o dair adran, pob un â thua 20 o hyfforddwyr: Top, Forecastle neu Quarter Deck.

Photo of WRENs at HMS Glendower during Second World WarErbyn diwedd y rhyfel, roedd dros 100,000 wedi pasio trwodd, gan gynnwys 12,000 o Iseldirwyr a niferoedd llai o Ganada, Seland Newydd a Jamaica. Gwaherddid diota, hapchwarae neu boeri ar y safle.

Prynodd Billy Butlin y gwersyll ym Medi 1946. Agorodd Butlin’s Pwllheli i ymwelwyr yn 1947.

Yn yr adeg brig yn 1961, cost wythnos yn y gwersyll oedd £15 i oedolion, gyda thua 12,000 o ymwelwyr yn cael llety ar y tro. Cymaint oedd y niferoedd fel bod prydau bwyd yn cael eu gweini mewn dau eisteddiad ar draws pedair ystafell fwyta! Mae'r awyrlun isaf yn dangos y gwersyll yn 1961.

Hwn oedd parc gwyliau cyntaf Prydain i groesawu mwy na 100,000 o westeion mewn tymor. Yr uchafbwynt oedd 147,000 yn 1983.

Aerial photo of Butlin's Pwllheli camp in 1961Bu Stan Boardman a Jimmy Starbuck yn “Redcoats” (staff adloniant) yn Butlin’s Pwllheli yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Dywedir bod Ringo Starr yn aros yma, ar ôl chwarae gig ym Mhwllheli, pan glywodd fod angen drymiwr newydd ar y Beatles. Yn 1973 dinistriwyd y Gaiety Theatre (theatr y gwersyll) gan dân, gan achosi difrod gwerth £1m – yn fuan cyn bod y digrifwr Ken Dodd i fod i berfformio yno.

Ymwelodd y Frenhines Elizabeth II â'r gwersyll ym 1963 yng nghwmni'r Tywysog Philip a Syr Billy Butlin. Roedd y tywysog wedi bod yn swyddog hyfforddi yn HMS Glendower ond gwrthododd ddweud ym mha gaban y bu’n cysgu ynddo, gan gellwair y byddai Billy’n codi’r tâl am y caban hwnnw!

Yn 1963 prynodd Billy y locomotif stêm mawr a adeiladwyd yn 1935, y Princess Margaret Rose. Bu'r loco yn atyniad yng ngwersyll Penychain hyd at 1975. Achubodd hefyd loco Fictoraidd a'i arddangos yma.

Yn 1990 ailenwyd y gwersyll yn Starcoast World. Mae bellach yn wersyll Hafan-y-Môr, sy’n eiddo i Haven.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, i Wyndham Underwood, ac i Lywodraeth Cymru am y ddau lun o’r awyr

Cod post: LL53 6HX    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button