Cartref mebyd Rex Manford, y Trallwng

PWMP logoCartref mebyd Rex Manford, 17 Stryd Fawr, y Trallwng

Mae hwn yn adeilad anghyffredin ei gynllun a bu unwaith yn gartref i’r cerddor Rex Manford, a laddwyd yn ardal y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu adeilad yma er yr 17eg ganrif neu ynghynt. Adeiladwyd yr adeilad presennol, o garreg y Trallwng, ar safle bloc o fflatiau gorlawn a oedd yn gartref i hyd at 15 o aelwydydd tlawd ar y tro.

Nid oes gan Rif 17, sy’n awr yn gartref i gwmni cyfrifwyr Baldwin’s, ddrws ffrynt sy’n wynebu’r stryd, yn hytrach lleolir y drws mewn cyntedd yng nghanol yr adeilad. Yn y cyntedd hefyd caech fynediad i rif 18, cyn i’r ffenestr llawr gwaelod gael ei symud i wneud lle i ddrws ffrynt newydd.

I gael mynediad i loriau uchaf rhif 17 rhaid dringo staer ganolog. Yn yr 1880au meddiannwyd rhif 17 gan yr henadur a’r masnachwr gwlân T Rowley Morris. Yn yr 1890au roedd yn warws storio i’r saer dodrefn a’r gorchuddiwr dodrefn Fred Anderson, a oedd yn berchen ar ei fan ei hun (a dynnwyd gan geffyl) i symud a storio dodrefn. Roedd hefyd yn rhedeg stiwdio ffotograffiaeth yn y Trallwng, a sefydlwyd gan ei dad James.

Meddiannwyd rhif 17 gan amrywiol feddygon yn yr 20fed ganrif. Yn gynharach yn y ganrif honno bu’n gartref i Samuel ac Edith Manford a’u plant. Samuel oedd prif glerc ystâd Castell Powys, roedd yn organydd eglwys ac yn feistr ar gôr Eglwys Crist, lle canai ei feibion Ronald a Reginald (Rex).

Ganed Rex yn 1892 a mynychodd Ysgol Ramadeg y Trallwng. Daeth yn organydd yn eglwys Ffordun ac arferai chwarae’n aml yn Eglwys Crist. Bu’n gweithio yn swyddfa’r ystâd am gyfnod.

Ym mis Mawrth 1914, ar drothwy’r rhyfel, ymunodd Rex ag Iwmoniaeth Sir Drefaldwyn. Fe’i dyrchafwyd yn Sarsiant yn fuan iawn. Ymunodd â’r Magnelwyr Maes Brenhinol fel Lefftenant yn 1915. Wrth ei wasanaeth yn y rhyfel aeth i Ffrynt y Gorllewin, Jerwsalem a’r Aifft. Fe’i lladdwyd mewn brwydr ym mis Awst 1918 yn ardal Somme, Ffrainc. Roedd yn 26 oed ac fe’i claddwyd yn Ffrainc.

Mae carreg fedd y teulu yn Eglwys Crist yn cynnwys arysgrif coffa a’r “ceiniog dyn marw” (plac pres) a anfonwyd at anwyliaid Rex gyda gair o gydymdeimlad oddi wrth Frenin Siôr V.

Gyda diolch i Natalie Bass

Cod post: SY21 7JP    Map

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch i lawr y Stryd Fawr a dal i fynd ar hyd Broad Street. Mae’r lleoliad nesaf ar gornel Broad Street a New Street
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button