Adfeilion barics a melinau chwarel Rhosydd, ger Tanygrisiau

Mae’r bwlch hwn, o’r enw Bwlch y Rhosydd, yn unigryw oherwydd ei fod wedi’i orchuddio â hen greiriau chwarel lechi fawr. Proseswyd llechi o chwarel danddaearol Rhosydd i'r de yn y melinau y gallwch weld eu hadfeilion yma heddiw.

Roedd llawer o'r chwarelwyr yn byw yn y barics yma, oherwydd bod y safle'n rhy anghysbell ar gyfer cymudo dyddiol o bentrefi neu drefi. Roedd gan y chwarel hefyd farics mewn man is, mwy cysgodol. Roedd gan y chwarelwyr eu capel eu hunain, sydd bellach yn adfail unig yng Nghwmorthin.

Dechreuwyd cloddio yn Rhosydd yn y 1830au, ar yr wyneb i gychwyn. Mae llwybrau'r inclêns yn dal i'w gweld.

Gan fod y rhan fwyaf o'r llechi yn ddwfn y tu mewn i Foel-yr-Hydd, bu'r chwarel yn cael ei gweithio fel lefelau tanddaearol o'r 1850au. Roedd y siambrau ar bob lefel wedi'u gwahanu gan bileri trwchus o graig y bu'n rhaid eu gadael yn eu lle i ddal y to i fyny. Roedd dŵr i bweru'r melinau a chludiant tanddaearol yn cael ei bibellu o'r tir uwch i'r gogledd.

Roedd mecanweithiau dyfeisgar yn symud llechi i fyny neu i lawr inclêns y tu mewn i'r mynydd. Defnyddiwyd balansau dŵr i ddod â llechi i fyny at y melinau o’r lefelau is. Roedd hyn yn golygu llenwi tanc ar gledrau â dŵr. Tynnai'r tanc llawn y wagenni llwythog i fyny trwy gebl wrth iddo ddisgyn. Rhyddhawyd y dŵr yn y gwaelod, a dychwelwyd y tanc at y brig gan bwysau’r wagenni gwag disgynnol. Llifai’r dŵr gwastraff allan trwy dwnnel ar waelod y chwarel. Cludwyd llechi Rhoysdd mewn trol ceffyl ar y trac trwy Gwmorthin hyd 1864, pan adeiladwyd tramffordd gul tua'r gorllewin o'r melinau at inclên hir a gysylltai â Thramffordd Croesor i Borthmadog.

Digwyddodd llawer o ddamweiniau yn y chwarel. Yn 1906 lladdwyd Owen Thomas, chwarelwr profiadol o Danygrisiau, gan gwymp o graig. Gadawodd wraig a thri o blant. Bu farw ei dad yn ddamweiniol yn chwarel Cwmorthin 10 mlynedd ynghynt. Bu’r chwarel yn brwydro i oroesi yn yr 20fed ganrif.

Yn hydref 1914 fe'i caewyd dros dro a symudodd llawer o'r gweithwyr i lofeydd De Cymru. Daeth y chwarel i ben yn 1930.

Ymhlith y ffynonellau mae ‘Gazeteer of Slate Quarrying in Wales’ gan Alun John Richards, Llygad Gwalch 2007

Map

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour