Olion chwarel lechi Rosebush

sign-out

Mae’r llwybr i’r gogledd o bentref Rosebush yn eich tywys heibio i olion y chwarel lechi fwyaf yn Sir Benfro. Mae orielau a phentyrrau o’r graig yn hollol amlwg. Roedd y llechi yn cael eu gollwng o’r orielau uwch ar hyd llethr rheilffordd. Roedd twnnel byr yn arwain at y lefelau is. Nid nepell o safle’r chwarel mae olion llai amlwg chwarel lechi Bellstone.

‘Enwog a phroffidiol’ oedd sut y disgrifiwyd chwarel Rosebush pan aeth ar ocsiwn yn 1835. Helaethwyd y chwarel gan yr entrepreneur Edward Cropper, un o gyfarwyddwyr y London & North Western Railway.

Ef a adeiladodd Rheilffordd Maenclochog, 13 km (wyth milltir) o ran ei hyd o chwarel Rosebush at y Great Western Railway yng Nhlunderwen. Agorodd y rheilffordd yn 1876. Y prif ddiben oedd cludo llechi a slabiau o amryw chwareli lleol. Roedd yn fodd i gludo rhagor o lechi Rosebush nag a wnaed erioed o’r blaen i ardaloedd trefol. Buddsoddwyd adnoddau ychwanegol yn y chwarel er mwyn hybu cynhyrchiant. Cost adeiladu’r rheilffordd a gwella’r chwarel oedd c. £130, 000. Codwyd gwesty sef Tafarn Sinc, nesaf at yr orsaf newydd yn Rosebush.

Roedd Syr Hugh Owen o Gwdig, perchen chwarel Bellstone, yn gefn i Edward. Joseph Macaulay, llysfab Edward, oedd rheolwr y chwarel a’r rheilffordd. Yn 1875 trefnodd Joseph gyngerdd yn Rosebush er budd Ysbyty Sir Benfro a Hwlffordd. Ef oedd llywydd y gyngerdd a chanwyd unawd ganddo.

Yn seremoni agor y rheilffordd ym mis Medi 1876 roedd baneri yn dymuno  “Hir oes i Mr a Mrs Cropper a Mr a Mrs Macaulay”, ond bu Edward farw yn fuan wedyn. Caeodd y rheilffordd ddiwedd 1882. Pan aeth y rheilffordd a’r chwarel ar ocsiwn yn 1889, credid bod y cyflenwad lleol o lechi yn ddiderfyn. Fe’u prynwyd gan y Cyrnol Joseph Okell. Estynnwyd y rheilffordd ganddo i gyfeiriad Treletert a phrynwyd injan newydd o’r enw Margaret, sydd wedi’i diogelu bellach yn Scolton Manor. Codwyd argloddiau newydd gan ddefnyddio balast llechi o Rosebush cyn i Joseph fynd yn fethdalwr yn 1896.

Yn 1899 estynnwyd y rheilffordd i Wdig, ger harbwr Abergwaun – yn unol â gweledigaeth Edward. Erbyn hynny roedd chwarel Rosebush yn mynd ar ei waered. Caeodd dros dro yn 1908, pan brynwyd ystad Rosebush, gan gynnwys y chwarel, y pentref a’r orsaf gan berthynas i Syr Hugh Owen. Caeodd y chwarel yn derfynnol yn 1914.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA66 7QX    Gweld Map y Lleoliad