Tafarn Sinc, Rosebush

Agorodd y gwesty hwn yn 1876. Ei enw bryd hynny oedd The Prescelly Hotel ac roedd yno un ar ddeg o ystafelloedd gwely. Y bwriad oedd datblygu twristiaeth ar hyd llwybr Rheilffordd Maenclochog a oedd newydd agor. Yn 2017 prynwyd y gwesty gan gymdeithas gymunedol er mwyn sicrhau y byddai’n parhau i estyn croeso i ymwelwyr.

Datblygodd Rosebush yn gymuned yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil y diwydiant llechi, yn enwedig felly wedi i’r rheilffordd newydd gysylltu sawl chwarel i brif  rwydwaith y rheilffordd yng Nghlunderwen. Gallwch ddarllen yr hanes ar ein tudalen sy’n son am olion chwarel lechi Rosebush.

Photo of the Prescelly Hotel and Rosebush stationRoedd rheilffordd y chwarel yn darparu gwasanaeth ar gyfer teithwyr. Codwyd y Prescelly Hotel  o gwmpas ffrâm o goed wedi’i orchuddio â haearn sinc rhychiog – dyna sut y cafodd yr enw poblogaidd a ddefnyddir heddiw sef Tafarn Sinc. Ffurfiwyd llynnoedd addurnol i ddenu twristiaeth  (mae’r rhain, bellach, o fewn  ffiniau Parc Gwyliau Rosebush). Yn yr hen  lun mae’r gwesty gerllaw adeilad yr orsaf.

Yn 1991-92 prynwyd y dafarn gan ddyn busnes lleol, Brian Llewellyn. Adnewyddwyd ac estynnwyd yr adeilad ganddo. Dyna’r wedd ar yr adeilad a welir ar hyn o bryd. Rheolwyr y dafarn oedd ei ferch Hafwen a’i fab yng nghyfraith Brian ‘Bici’ Davies. Pan oedden nhw ar fin ymddeol rhwystr i werthiant yr eiddo oedd natur a chynllun yr adeiladu. Methiant fu’r cais i sicrhau morgais.

Yn sgil hynny, cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio yn 2017 er mwyn prynu’r dafarn. Codwyd cyfalaf trwy werthu cyfranddaliadau. Cyn hir roedd cannoedd o gyfranddalwyr, yn lleol ac ar hyd a lled Cymru, a rhai o dramor a oedd a diddordeb yn yr ardal yn ogystal. Mae’r dafarn yn cael ei rhedeg gan fwrdd o gyfarwyddwyr lleol a rhoir pwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol.

Y tu mewn trefnwyd arddangosfeydd o ddiddordeb lleol gan gynnwys y rhaw a gododd tywarchen gyntaf y rheilffordd yn 1873.

Diolch i Peter Claughton, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA66 7QU     Gweld Map y Lleoliad

Gwefan Tafarn Sinc