Gwarchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd

Mae'r warchodfa hon ar ben clogwyni yn un o'r lleoedd gorau yng Ngogledd Cymru i wylio adar môr, yn ogystal â chynnig rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf dramatig y rhanbarth.

Photo of South Stack Cliffs and Ellin's Tower in the 1890s

Yn ystod tymor nythu yr haf, gall ymwelwyr ddysgu mwy am fywyd yr adar - a gwylio rhywfaint ohono drwy delesgopau pwerus – yng nghanolfan yr RSPB yn Nhŵr Ellin. Mae'r adeilad crenellog yn dyddio o 1868 ac fe'i hadeiladwyd gan yr AS lleol William Owen Stanley, ac yn ddiweddarach yn Arglwydd Raglaw Ynys Môn, fel tŷ haf i'w wraig Ellin. 

Tynnwyd y llun wrth ymyl y goleudy yn 1890au. Gallwch weld Tŵr Ellin ar y gorwel ar y dde. 

Ymwelodd yr hanesydd a'r naturiaethwr Thomas Pennant â'r ardal yn y 1770au. Wedi hynny ysgrifennodd fod wyau adar môr yn fwyd lleol gan gynnwys hebogiaid tramor, siâg, crëyr glas, llursod a gwylogod. Cai y casglwr wyau ei ostwng o gopaon y clogwyni gan raff a ddaliwyd gan un neu fwy o bobl eraill. Unwaith fe lusgwyd y dyn dal y rhaff dros ymyl y clogwyn, a syrthiodd y ddau ddyn i'w marwolaeth. 

Un o'r prif rywogaethau o ddiddordeb yn Ynys Lawd drwy gydol y flwyddyn yw'r frân goesgoch, aelod prin o deulu'r frân y gallwch ei adnabod yn hawdd gan ei bigyn a'i choesau coch. Cadwch lygad am brain yn y caeau ger y ganolfan ymwelwyr.

Mae gwarchodfa South Stack yn dân o liw yn y gwanwyn a'r haf, diolch i flodau fel clustog Fair a gludlys môr. Mae Chweinllys y Morfa, sy'n cynhyrchu blodau melyn bach, yn unigryw i glogwyni Ynys Gybi, fel y mae Cor-rosyn rhuddfannog (Tuberaria guttata), blodyn sir Ynys Môn.

Mae'r llwybr i lawr i oleudy Ynys Lawd yn cynnig golygfa ysblennydd o strata troellog y clogwyni. Mae rhai o'r creigiau yn dyddio cyn cyfnod Cambria, a ddechreuodd 570 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn y tir o'r ganolfan ymwelwyr mae olion aneddiadau cyn hanesyddol, gan gynnwys bryngaer Caer y Twr, ar Fynydd Caergybi. Yn nes at Ynys Lawd mae olion cytiau o'r Oes Haearn, a thir fferm teras, a elwir yn gytiau Tŷ Mawr, neu Cytiau'r Gwyddelod. Mae gwaith cloddio wedi awgrymu bod strwythurau yn y cyffiniau yn cael eu defnyddio gan y Rhufeiniaid ac efallai eu bod yn rhan o'u hamddiffynfeydd yng ngogledd Ynys Môn, oedd â dyddodion copr cyfoethog.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL65 1YH    Gweld Map Lleoliad

Cyfeirnod grid: SH211818

Gwarchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button