Adfeilion adeiladau chwarel lechi Trwyn Llwyd, ger Tre-fin
Dyma lle mae Llwybr Arfordir Cymru yn ein tywys heibio i adfeilion adeiladau chwarel lechi Trwyn Llwyd. Roedd yr union chwarel dros ymyl y graig. Cadwch draw o’r dibyn a pheidiwch â mentro dringo i’r hen chwarel.
Mae map OS 1888 yn nodi “Old Quarry” i’r gogledd o’r adeiladau, a chredir bod cloddio am lechi wedi dechrau yma ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Roedd pwll y chwarel tua’r mewndir, ychydig i’r dwyrain o’r fan hon. Mae’r un map yn nodi bod rheilffordd fechan rhwng y graig ac adeiladau’r chwarel; nodir bod “Tank” gerllaw – mae’n bosibl mai tanc dal dŵr ar gyfer injan stêm sefydlog y chwarel oedd hwnnw.
Yr adeilad pwysicaf oedd y felin. Câi hyd at 30 tunnell o lechi eu prosesu bob mis yn ystod y 1860au. Bu cyfnod o fuddsoddi wedi i fusnes y chwarel hon uno â’r rheini yn ardal Porth-gain ac Abereiddi.
Câi llechi Trwyn Llwyd eu trin ar lan y môr a’u llwytho i gychod. Yn yr adeilad llai roedd bwyler yr injan stêm a yrrai’r felin a chodi’r llechi o’r chwarel gerfydd cadwynau. Gynt cysylltid y cadwynau i ‘whim’ sef capstan a cheffyl yn troi hwnnw wrth iddo gerdded o’i amgylch.
Yn y pen draw estynnai terasau’r chwarel i lawr dros y rhan fwyaf o wyneb y graig. Pan oedd y chwareli yma ac yn Abereiddi a Phorth-gain ar werth yn 1860 broliai hysbyseb “ y gellid taflu gwastraff o’r chwareli yn syth i’r môr”! Roedd y chwareli ar werth y flwyddyn wedyn yn unedau ar wahân. Yn achos Trwyn Llwyd cynigiwyd craeniau, cadwynau a blociau trin yn ogystal.
Yn 1890 roedd cynnyrch y chwarel yn cynnwys sil ffenestri, cerrig beddau, cerrig llawr, silffoedd pen tân, pyst gatiau a rhannau ar gyfer dyfrgistiau . Yn 1898 gwerthwyd y chwarel drachefn i nifer o ffermydd lleol. Roedd injan stêm a llifiau mecanyddol yn rhan o’r gwerthiant. Honnai’r arwerthwyr bod y llechi a’r slabiau a godwyd o’r chwarel “wedi profi eu bod o ardderchowgrwydd arbennig ac o ansawdd da.”
Cwta flwyddyn yn ddiweddarach, gwahoddwyd gwerthwyr sgrap i gynnig am beiriannau, bwyleri, chwerfain, rhodenni, chwifolwynion, meinciau llifio, tramiau (wagenni rheilffordd syml), cledrau ac asedion metel eraill.
Ffynhonellau sy’n cynnwys LLGC a “The Slate Quarries of Pembrokeshire” gan Alun John Richards, Llygad Gwalch 2013. Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |