Safle rheilffordd Morglawdd Caergybi
Os ydych chi newydd sganio'r codau QR ger Pwynt y Milwr, sylwch sut mae'r ffordd i'r gorllewin yn rhedeg yn syth ac o dan bont ffordd fach. Yn wreiddiol, dyma oedd llwybr y rheilffordd lled eang.
O 1847 ymlaen, cymerodd y gwaith o adeiladu Morglawdd Caergybi dros 6 miliwn tunnell o gerrig gloddiwyd o Fynydd Caergybi. I ddechrau, ceffylau oedd yn tynnu’r wagenni. Collwyd llawer ohonynt, a'u wagenni, o ganlyniad i geffylau'n dychryn ar agosáu at y môr.
Yn ddiweddarach cysylltwyd y chwarel a'r morglawdd gan reilffordd lled-lydan gyda 213cm (7tr) rhwng y rheiliau (yn y llun ar y dde, o'r London Illustrated News). Roedd y wagenni yn gwagio nid trwy'r ochr arferol na'r drysau cefn ond trwy eu lloriau. Yna byddai'r cerrig yn disgyn trwy fylchau rhwng y rheiliau. Roedd y dewis o fesur-eang yn galluogi'r agoriadau yn y wagenni a'r trac i fod yn ehangach na'r hyn y byddai medrydd safonol wedi'i ganiatáu, fel y gellid cario creigiau mwy.
Ar Pwynt y Milwr ymwahanodd y trac i redeg ar hyd Traeth Newry i Ynys Halen, yn barod ar gyfer adeiladu morglawdd dwyreiniol (byth wedi'i adeiladu).
Ym 1913 cafodd y llinell a'i locomotif stêm preswyl y Tywysog Albert eu trosi i fesur-safonol. Roedd y loco yn cael ei chadw yn y sied injan a gweithdai rheilffordd – yr adeilad i'r dde wrth i chi sganio'r cod QR. Yn 1940 fe wnaeth Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd feddiannu hwn fel sied, gan adael y loco Crowhurst (a brynwyd ym 1934) fynd i sied fechan yn y chwarel.
Yng nghyfnod Rheilffyrdd Prydeinig (British Rail), gweithiwyd y rheilffordd gan locos diesel Dosbarth 01 a adeiladwyd yn y 1950au a'u gweithio tan 1980, pan osodwyd slabiau mawr o chwarel llechi'r Penrhyn, Bethesda, ar ochr y môr y morglawdd. Nid oedd angen y rheilffordd mwyach oherwydd prynwyd craen disel i gymryd lle'r craen morglawdd oedd wedi dirywio ac a oedd wedi codi cerrig o'r wagenni rheilffordd.
Gallwch weld rhannau byr o drac mesur-safonol yn arwain tuag at fynedfa'r sied injan ac yn agos at ddechrau'r torddwr.
Heddiw mae Parc Gwledig Morglawdd Caergybi yn meddiannu'r hen chwarel. Mae'r arddangosion yno'n cynnwys pâr o olwynion wagen o'r 1870au.
Gyda diolch i Graham Van Weert o Amgueddfa Forwrol Caergybi, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Gwefan Parc Gwledig Morglawdd Caergybi
![]() |
![]() ![]() |