Safle Capel y Bwlch, Llanengan
Codwyd Capel Methodist yn y pentref yn yr 1870au yn lle’r capel blaenorol gerllaw, y bu raid ei ddymchwel am sawl rheswm.
Ond cynhaliwyd pregeth ‘Fethodistaidd’ gyntaf yr ardal yn Ionawr 1741 mewn ffermdy bach pellennig ger Porth Neigwl, sef Pengogo, sydd ger yr arfordir i'r de-orllewin o Lanengan. Mae'r safle wedi'i nodi gan blac llechen wrth ymyl y llwybr troed.
Cartref William Griffith a’i deulu oedd Pengogo, ac wedi rhai blynyddoedd o ymgynnull yn y ffermdy diarffordd, dygwyd William Griffith a dau arall o’r plwyf i Lys yr Esgob i roi cyfrif o’u cyfarfodydd. Ond parhau i ymgynnull mewn man gwahanol a wnaeth y cwmni bychan brwd, a thyfodd yr achos.
Cofrestrwyd Capel cyntaf Y Bwlch yn Swyddfa’r Esgobaeth ym mis Hydref 1807. Oherwydd twf cyson yr aelodaeth, bu raid ei helaethu sawl tro - ym 1813, ym 1826 ac eto ym 1854. Ond ers agor chwarel Tan yr Orsedd gerllaw ym 1840 blinid yr aelodau gan y llwch a’r ffrwydro cyson. Rhaid oedd chwilio am lecyn arall i godi capel mwy ond nis cafwyd tan 1871.
Wedi blynyddoedd o drafod am leoliad addas, llwyddodd y meddyg lleol, Dr Thomas Williams, Dwylan - oedd yn flaenor yn y capel - i berswadio’i ffrind David Williams, perchennog fferm Y Bwlch, i roi llain o’i dir yn ddi-dâl i godi’r capel newydd. Fel canlyniad, dymchwelwyd y capel cyntaf a defnyddio’r coed a’r cerrig i godi’r ail. Ond fe saif yr Hen Dŷ Capel hyd heddiw gerllaw safle’r capel cyntaf a’i enw yn glir ar lechen o’i flaen.
O’r diwedd gosodwyd carreg sylfaen Capel newydd Y Bwlch yn Rhagfyr 1870. Pinacl twf yr achos felly oedd codi’r capel newydd hwn ar dir fferm Y Bwlch. Gwelwn yma lun o’r gweinidog cyntaf, y Parch William Hughes, drwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol. Daeth ei ferch Ellen Hughes, yn adnabyddus drwy Gymru fel ymgyrchydd brwd dros hawliau merched a dirwest ar ddechrau’r 20G. Pwyswch yma i ddarllen mwy amdani.
Ond gyda dirywiad yn nifer yr aelodau ac yng nghyflwr yr adeilad bu’n rhaid dymchwel y Capel ym 1990, gan barhau i addoli yn y Festri. Erbyn 2019 fodd bynnag, penderfynwyd dod â’r achos - fu’n bodoli yn y plwyf am ddwy ganrif a hanner - i ben.
With thanks to the Diogelu Enwau Llanengan group
Postcode: LL53 7LD View Location Map