Safle gwaith cemegol, Amlwch
I'r gogledd o Lwybr Arfordir Cymru yn y cyffiniau hwn mae safle ffatri gemegol, a agorwyd ym 1953. Mae'r llwybr yn croesi'r rheilffordd segur a gysylltodd y ffatri â Rheilffordd Ganolog Môn.
Adeiladwyd y ffatri Associated Octel i dynnu bromin o ddŵr y môr a'i droi'n ychwanegyn ar gyfer peiriannau petrol. Ar y pryd, roedd petrol a ddefnyddiwyd mewn cerbydau ffordd yn cynnwys plwm. Roedd "cnocio" injan yn broblem gyffredin, pan nad oedd y gymysgedd o aer a thanwydd yn llosgi'n effeithlon gyda phob taniad. Gallai hyn niweidio silindrau injan dros amser. Roedd yr ychwanegyn a gynhyrchwyd yma yn lleihau cnocio a gwella effeithlonrwydd injan.
Wrth i effeithiau iechyd plwm mewn nwyon gwacáu cerbydau gael eu deall yn well, datblygwyd petrol di-blwm. Fe'i cyflwynwyd i orsafoedd llenwi'r DU yn y 1980au, a daeth petrol plwm i ben yn ddiweddarach. Wrth i'r galw am ychwanegyn gwrth-gnocio leihau, arallgyfeiriodd ffatri Octel i gynhyrchion bromin eraill ac fe'i cymerwyd drosodd gan Great Lakes Chemical Corporation. Yn 2003, penderfynodd y gorfforaeth gau'r gwaith gyda cholli mwy na 100 o swyddi.
Adeiladwyd Rheilffordd Ganolog Ynys Môn yn y 1860au i gysylltu Amlwch a Llangefni â phrif rwydwaith rheilffyrdd yng Nghaerwen. Estynnwyd y trac y tu hwnt i derfynfa wreiddiol Amlwch ar ddechrau'r 1950au er mwyn i drenau cludo nwyddau gyrraedd safle'r ffatri. Cafodd trenau teithwyr eu gorffen yn 1964 ond cadwyd y trac ar gyfer traffig cemegolion. Gadawodd y trên cludo nwyddau olaf safle Octel ym 1993. Mae'r trac yn parhau i fod yn ei le, yn ogystal ag adeilad yr orsaf a'r sied nwyddau rheilffordd yn Llangefni.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL68 9DW Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |