Port Llanlleiana

Port Llanlleiana

Roedd y gilfach dawel hon unwaith yn ganolfan diwydiannol, fel y gallwch ddyfalu wrth weld olion y gweithfeydd caolin (clai gwyn) Fictoraidd. Efallai bod y lleoliad yn edrych yn ddiarffordd ar gyfer cynhyrchu deunyddiau trymion, ond roedd yn agos at ffynhonnell o gaolin. Defnyddir caolin heddiw mewn llawer o gynhyrchion, gan gynnwys porslen, papur sgleiniog, nwyddau harddu a phast dannedd.

Sylwch sut y codwyd y simnai ar ochr y bryn, gan leihau’r gwaith carreg a oedd yn angenrheidiol i sicrhau bod pen y simnai yn ddigon uchel. Roedd simneiau ffatri yn tynnu cerynt aer trwy ffwrneisi a berwedyddion, i sicrhau bod y tân yn llosgi'n dda. Roeddynt hefyd yn gwasgaru'r mwg yn eithaf pell o anadl y gweithwyr.

Deuai’r caolin o’r bryn ar eich dde wrth i chi wynebu’r môr yma. Mae’r gweithgaredd mwyngloddio wedi dinistrio peth o fryngaer cynhanesol o’r new Dinas Gynfor, ond mae rhannau helaeth o’r caer yn dal i fodoli. Dyma dir mwyaf ogleddol Cymru.

Mae’n ymddangos bod yr enw Llanlleiana yn cyfeirio at leianod. Ysgrifennwyd yr enw fel Llanliane yn 1535 a Llanlliana tua 1840. Fodd bynnag, nid oes cofnod o leiandy neu gwfaint yma. Rhaid cadw meddwl agored ar beth yn union ydy arwyddocad "lleian" yma. Gweler Hen Enwau o Ynys Môn gan Glenda Carr (2015).

Diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am y gwybodaeth am enw’r lle

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button