Cloch Sant Padrig, Cemaes

Mae Cloch Sant Padrig yn rhan o gyfres o glychau sydd wedi'u lleoli o amgylch arfordir Prydain ac sy'n cael eu canu gan y môr ddwywaith y dydd ar y penllanw. Cynlluniwyd y clychau gan y cerflunydd a'r cerddor Marcus Vergette yn 2008 a gosodwyd y gloch hon yng Nghemaes yn 2013, gyda seremoni urddo lawn yn 2014. Hon oedd y bumed gloch mewn cyfres o 13 cloch – dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth amdanynt.

Mae'r clychau amser a llanw mor wydn ag y gallant fod, wedi'u cynllunio nid yn unig i wrthsefyll y tonnau garw ond hefyd i nodi'r cynnydd yn lefel y môr, oherwydd cynhesu hinsoddol byd-eang. Maent yn anrhydeddu rhythmau tragwyddol y llanw yn ogystal â heriau anochel ein cymunedau arfordirol. 

Enwir y gloch hon ar ôl Sant Padrig, yr honnir iddo ddod i'r lan yn Llanbadrig gerllaw yn y 5ed ganrif. Gallwch ymweld â'r eglwys sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.

Mae'r gloch wedi ei chastio mewn efydd gradd forol, ac fe wnaed y strwythur cynhaliol gan Magnox yng ngweithdy atomfa'r Wylfa. Ysgrifennwyd y gerdd ar y ddeilyd tonnau, sy'n peri'r canu, gan y bardd lleol Glyndwr Thomas ac mae'n darllen fel a ganlyn:

Tawel ei chnul uwch heli,
Enw sant yn ei llais hi;
Cloch a’i thraw yn dweud o’i thrig
Dragwyddol weddi Padrig.

Above the waves, melodiously, sounds
The name of a saint, so fair;
A bell whose knell is here to tell
Patrick’s eternal prayer.

Yr un ystyr sydd i'r penillion Cymraeg a Saesneg.

Gyda diolch i Helen Grove-White, ac i Nigel Thomas am y cyfieithiad

Gwefan Time and Tide Bell – manylion pob un o'r 13 cloch a digwyddiadau cysylltiedig

Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button