Safle terfynfa'r fferi, Aberdyfi

Safle terfynfa'r fferi, Aberdyfi

Roedd fferi yn croesi’r foryd i’r de o Aberdyfi am ganrifoedd. Adeiladwyd tai a thafarndai yn Aberdyfi erbyn yr 17eg ganrif ar gyfer teithwyr a gweithwyr fferi.

Gydag agor rheilffyrdd ar ddwy ochr yr aber yn y 1860au, daeth modd fforddiadwy arall i bobl deithio o un ochr i'r foryd i'r llall, er bod y siwrnai yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, goroesodd y fferi i Ynyslas ac fe'i gweithredwyd gan y cwmni rheilffordd – roedd pris tocyn yr un peth boed mewn cwch neu drên.

Roedd stemar o'r enw Elizabeth yn gweithredu'r gwasanaethau fferi tan 1869, pan gafodd ei symud i Belffast. Stopiodd y fferi dros dro ym 1876 gan nad oedd bellach yn cyfiawnhau oriau amser llawn i weithredwr y fferi, y Capten John Bell.

Mae mapiau'r Arolwg Ordnans, gan gynnwys rhifyn 1948, yn dangos llwybr y fferi yn gadael pen gorllewinol yr harbwr. Parhaodd y dyn fferi Ellis Williams i redeg gwasanaeth fferi tymhorol i Ynyslas, gan ddefnyddio’i gwch Sea Spray, tan y 1970au, fel gwasanaeth i bobl ar eu gwyliau. Daeth yn harbwr feistr Aberdyfi ym 1976.

Roedd John Bell wedi hwylio'r byd efo’r Llynges Frenhinol. Buoedd yn rhedeg y fferi am fwy na 30 mlynedd. Bu hefyd yn llywiwr (“coxswain”) bad achub Aberdyfi am 30 mlynedd. Cafodd ef a'i griw ginio ym 1897 yn wobr am eu dewrder wrth achub chwech o ddynion o long o Norwy yn ystod drycin.

Ym 1907 defnyddiodd John a'i fab Edda eu cwch fferi i achub grŵp o chwech o ymwelwyr a oedd ddychwelyd i Aberdyfi o Aberystwyth pan gododd gwynt cryf. Ar ôl marwolaeth John ym 1909, bu Edda yn rhedeg y fferi.

Un o ffrindiau Edda oedd Laurence Ruck o Brynderw. Addysgwyd Laurence yn breifat yng Nghaerhirfryn a gwasanaethodd fel Is-gapten yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl marwolaeth Laurence yn Ffrainc ym 1915, derbyniodd Edda arian o ewyllys Laurence. Defnyddiodd Edda yr arian i brynu cwch fferi newydd a enwodd The Hero er anrhydedd i Laurence.

Cod post: LL35 0RA    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button