Cwrs golff Aberdyfi
Cwrs golff Aberdyfi
Chwaraewyd golff am y tro cyntaf ar Gomin Aberdyfi ym 1886 pan aeth aelodau o deulu Ruck o Bantlludw, ger Machynlleth, a'u perthnasau allan ar gwrs gan ddefnyddio potiau blodau ar gyfer tyllau. Daeth un perthynas, Bernard Darwin (un o ddisgynyddion y naturiaethwr Charles Darwin), yn ohebydd golff ar gyfer The Times a disgrifiodd Aberdyfi fel “y cwrs y mae fy enaid yn ei garu orau o’r holl gyrsiau yn y byd”.
Sefydlwyd Clwb Golff Aberdyfi ym 1892 a phrynodd rydd-ddaliad y comin ym 1905 am £2,250. Roedd gan sawl fferm hawliau pori ar gyfer gwartheg a defaid ar y cwrs. Mae tair fferm yn cadw eu hawliau hyd heddiw ar gyfer gwartheg yn yr haf a hyd at 116 o ddefaid rhwng Tachwedd ac Ebrill.
Mae'r hen lun yn dangos y clwb a'r ti cyntaf. Mae'r cwrs ar rota Pencampwriaeth Amatur Cymru ac wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cenedlaethol dros y blynyddoedd.
Arferai ci crwydr o’r enw “Pilot” ddod yma a “dilyn” y gêm ar ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd wedi cyrraedd ar stemar estron a chafodd ei “fabwysiadu” gan bobl y dref. Gwnaeth ffrindiau ag ymwelwyr, yn enwedig golffwyr, a chafodd ei ladd gan drên ym 1902.
Mae'r cwrs a'r twyni yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyfi, a nodwyd ar gyfer un o'r poblogaethau mwyaf gogleddol o fadfallod tywod yn y DU. Mae planhigyn cynyddol brin, llyriad dŵr llai, yn doreithiog yn y ffosydd draenio.
Mae aelodaeth y clwb bob amser wedi cynnwys trigolion lleol ac ymwelwyr mewn cyfrannau cyfartal. Mae llawer o deuluoedd, lleol ac oddi cartref, wedi dychwelyd genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Un teulu o'r fath yw’r teulu Howells o Blas Penhelig, y tu ôl i Westy'r Penhelig Arms.
Priododd un o nithoedd y teulu, Alison Bonsall o Fachynlleth (yn y llun), ag Oberleutnant Eugen von Rieben o 8ed Dragwniaid byddin yr Almaen ym mis Hydref 1912. Ei was priodas oedd brawd Alison, Vivian Bonsall o Gatrawd Cymru, a oedd yn sefyll i mewn am gymrawd o’r Dragwniaid a oedd wedi cael ei alw'n ôl i'r Almaen ar frys. Danfonodd Dywysoges Goronog yr Almaen ei dymuniadau gorau mewn telegram.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd gŵr a brawd Alison yn ymladd ar ochrau gwrthwynebol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymerodd Eugen ran yn ymosodiad yr Almaen ar Wlad Belg ond ni ddychwelodd at ei wraig ifanc, a ysgarodd erbyn 1939. Bu farw Alison ym 1971. Ymsefydlodd Eugen yn yr Almaen erbyn 1921, ar ôl dod yn Uwchgapten, a bu farw ym 1955.
Fel Alison Rieben, roedd hi'n ffigwr o bwys yng Nghlwb Golff Aberdyfi. Enillodd bencampwriaeth golff y merched Cymru ym 1929 a 1936, a hi oedd llywydd y clwb ym 1962. Roedd ei merch Isabella yn bencampwr Cymru ym 1932, 1949 a 1951.
Gyda diolch i David Tomkinson, Rab Jones a Hazel Pierce
Cod post: LL35 0RT Map
![]() |
![]() ![]() |