Safle carcharorion rhyfel a gwersyll y fyddin, Tywyn

button-theme-powDRAFTSafle carcharorion rhyfel a gwersyll y fyddin, Neuadd Neifion, Tywyn

Yn edrych dros lan y môr yma mae Neuadd Neifion (Neptune Hall), a adwaenwyd wethiau fel Minymor. Roedd yn dŷ preswyl o safon uchel yn y 1860au. Ymhlith yr ymwelwyr rheolaidd ar y pryd roedd y tirfeddiannwr a'r gwleidydd Ceidwadol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wraig.

Aerial view of Neptune Hall, Tywyn, in 1946Sefydlwyd gwersyll dros dro yn Neuadd Neifion tua diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ar gyfer carcharorion rhyfel o'r Almaen a oedd yn gweithio ar ffermydd lleol. Ym mis Awst 1919, cafodd y carcharor Alfred Slowig ei alw'n arwr am geisio achub bywyd merch o Birmingham a aeth i drafferth wrth ymdrochi yn y môr. Cafodd Madelene Bailey, 13 oed, a'i chwaer hŷn eu llethu gan don fawr. Rhedodd Alfred, wedi ei wisgo'n llawn, i'r dŵr a dod â Madelene i'r lan yn llwyddiannus. Bu farw’r ferch, er gwaethaf ymdrechion dau feddyg lleol. Yn ei chwest, diolchodd ei thad yn gynnes i'r Almaenwr am geisio achub ei bywyd.

Bu farw carcharor arall o'r Almaen o niwmonia wrth lafurio ar welliannau draenio ger Tywyn.

Datgelodd storm ffyrnig ym 1929 hen garreg filltir ar lan y môr ger Neuadd Neifion. Ni welwyd hi ers 40 mlynedd ac roedd yn dystiolaeth bod yr arfordir wedi erydu mwy na 40 metr mewn hanner canrif.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd yr ardal o amgylch Neuadd Neifion gan Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol fel gwersyll hyfforddi, yn benodol i hyfforddi dynion i ddefnyddio cerbydau amffibiaidd a ddefnyddiwyd yn y glaniadau D-Day yn Normandi ym mis Mehefin 1944. Daeth cytiau’r gwersyll yn gytiau gwyliau ar ôl y rhyfel. Mae’r gwersyll yn y gornel uchaf ar y dde yn y llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru.

Roedd gan y Môr-filwyr Brenhinol lawer o wersylloedd yn yr ardal hon hefyd, gan gynnwys yn Ynysmaengwyn, Tywyn, a elwid yn Camp Matapan. Defnyddiodd milwyr yr amodau môr ffafriol i ymarfer glanio ar y traethau efo cychod glanio. Hyfforddwyd gyrwyr cychod glanio yma hefyd.

Ym 1959, fe wnaeth plant a oedd yn chwarae ar y traeth ger maes carafanau Neuadd Neifion ddarganfod 600 o boteli cwrw, whisgi a siampên. Nid oedd y poteli yn cynnwys unrhyw ddiodydd ond coctel fflamadwy o betrol ac olew. Credir eu bod yn ddyfeisiau difyfyr a wnaed gan filwyr yng ngwersyll y fyddin gyfagos i'w defnyddio yn erbyn unrhyw filwyr o'r Almaen a fyddai’n ceisio llifo i mewn i Brydain Fawr. Yn y twyni tywod i'r de o Neuadd Neifion mae olion maes saethu Penllyn. Fe'i ddatblygwyd ar gyfer milisia (milwyr gwirfoddol) yn oes Fictoria a pharhawyd i'w ddefnyddio yn ystod y ddau ryfel byd.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, a Llywodraeth Cymru

Cod post: LL36 0DL    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button