Promenâd Tywyn

Promenâd Tywyn

Adeiladwyd y promenâd hwn ar ddiwedd y 19eg ganrif fel amddiffynfa môr ac i annog ymwelwyr i ddod i Tywyn.

Gosodwyd carreg sylfaen y strwythur ym mis Tachwedd 1889 gan John Corbett, AS Droitwich, fel y disgrifir ar y garreg goffa ym mhen gogleddol y prom. Roedd wedi defnyddio peth o'i ffortiwn o'r diwydiant halen i brynu ystâd Ynysymaengwyn yn Nhywyn, gan gynnwys tir ar hyd y lan yma. Yn ddiweddarach, ariannodd adeiladu rhan gychwynnol y promenâd a'r morglawdd. Enwir Corbett Avenue, sy'n arwain at y prom, er anrhydedd iddo.

Ymestynnwyd y promenâd ym 1893, ac yn fuan adeiladwyd “filâu model” yn y pen gogleddol. Am ddegawdau, y rhain oedd yr unig adeiladau ar y prom yn “Towyn-on-Sea”, fel y gelwid y cyrchfan embryonig. Rhoddwyd y prom a'i gysgodfan – a elwir bellach yn “gysgodfan Fictoraidd” – i’r dref ym 1898.

Ym 1877 gosododd Cwmni Pier Towyn, a oedd newydd gael ei ffurfio, y garreg sylfaen ar gyfer pier Tywyn. Disgwylid y byddai’r pier yn ymestyn bron i 100 metr (300 troedfedd) allan i’r môr. Gwerthwyd y darn cychwynnol i John Corbett ym 1880. Ni chwblhawyd y pier erioed, ond Ffordd y Pier yw’r enw ar y ffordd sy'n arwain at ei safle hyd heddiw.

Gosodwyd tap a chafn ddŵr, ar gyfer "dyn a bwystfil", ar y prom ym 1892, pan oedd cerbydau ffordd yn dal i gael eu tynnu gan geffylau.

Cod post: LL36 0DE    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button