Safle maes awyr yr awyrlu, Tywyn

theme page link buttonSafle maes awyr yr awyrlu, Tywyn

Prynodd y Weinyddiaeth Awyr dir yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar gyfer maes awyr. Roedd y tir wedi cael ei adennill o'r môr yn oes Fictoria ac yn darparu safle eang prin o dir gwastad yn y rhanbarth fynyddig hon.

Aerial view of Tywyn airfield site in 1946Agorodd RAF Towyn ym 1940 ac roedd yn cynnwys man glanio glaswellt mawr, nifer o hangarau ar gyfer storio deunyddiau neu gynnal a chadw awyrennau, tŵr rheoli ac adeiladau ategol lle y gallai milwyr letya. Mae ychydig o'r rhain, ynghyd â rhai o amddiffynfeydd y maes awyr, i'w gweld hyd heddiw.

Mae yna hefyd blatfform cwmpawd crwn gyda saeth yn pwyntio i'r gogledd. Defnyddiwyd hwn ar gyfer cyfeirio awyrennau. Gerllaw mae polyn metel tal lle y byddai hosan wynt yn cyhwfan, i ddangos cyfeiriad y gwynt.

Yn bennaf, roedd y maes awyr yn ganolfan ar gyfer awyrennau a fyddai’n tynnu targedau y gallai milwyr y Magnelau Brenhinol, a oedd yn gwersylla yn Nhonfanau, danio atynt. Roedd rhai o'r awyrennau hyn yn awyrennau dwbl Tiger Moth a hedfanwyd o bell o dan reolaeth radio. Fe’u gelwid yn ‘Queen Bees’.

Y math arall o awyren a hedfanwyd oddi yma oedd yr Hawker Henley. Roedd peilot ym mhob un. Roeddent yn tynnu drôg hir y byddai’r gynnwyr yn tanio ato gyda'u gynnau gwrth-awyrennau.

Ym mis Gorffennaf 1944, ceisiodd bomiwr mawr pedair-injan Americanaidd lanio mewn argyfwng yn y maes awyr, ar ôl mynd ar goll mewn tywydd gwael a rhedeg yn isel ar danwydd. Roedd y Flying Fortress yn rhy fawr i RAF Towyn a gorhedfanodd y rhedfa. Er iddi fynd ar dân, dihangodd yr awyrenwyr heb anaf.

Caeodd RAF Towyn ym 1945 a chymerodd y fyddin y safle drosodd. Arhosodd fel canolfan filwrol, mewn gwahanol ffurfiau, tan 1999. Daeth peth o'r tir yn fferm ynni’r haul wedi hynny.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos safle’r maes awyr ym 1946.

Gyda diolch i Adrian Hughes o Amgueddfa Home Front, Llandudno, a Llywodraeth Cymru

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button