Iseldiroedd Dysynni, Tywyn
Rhwng Tywyn a'r bont droed dros yr afon Dysynni, mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi tir lle roedd moryd yn wreiddiol. Mae gan y bont rychwant 50 metr a hi oedd y fwyaf o'i bath yn y DU pan gafodd ei gosod yn 2013. Yn flaenorol, roedd llwybr yr arfordir yn dargyfeirio 21km trwy Bryncrug.
Ar un adeg roedd y môr yn gorchuddio'r ardal hon ar lanw uchel, gyda chei ar y draethlin i'r gogledd o Tywyn, mae'n debyg. Mae un ehangder o ddŵr, o'r enw Broadwater, yn dal i fodoli, i'r gogledd-orllewin o'r tir wedi'i adennill, ac mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Sefydlwyd y dopograffeg presennol yn y 1860au, pan osodwyd y systemau draenio uchaf ac isaf. Cafodd dŵr ei ddargyfeirio i’r sianel sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r afon am tua 8km. Mae'r sianel yn llifo o dan y rheilffordd a llwybr yr arfordir ac yn gwagio i'r môr ger hen safle maes awyr yr awyrlu.
Roedd dwy sianel hefyd yn llifo o dan yr afon, er mwyn draenio corsydd Llanegryn ar y lan ogleddol. Y canlyniad oedd ehangder newydd o dir amawthyddol ffrwythlon, ond yn raddol symudodd gweithredoedd y môr gwrs yr afon ymhellach i'r gogledd, lle roedd gwely'r afon yn uwch. Arafodd hyn lif yr afon, gan achosi siltio ac amharu ar ddraeniad y tir.
Daeth materion i ben ym 1918, pan oedd llawer o'r tir a adferwyd mor ddwrlawn nes bod tyfu cynnyrch yn anymarferol – ar adeg pan roedd angen i Brydain gynyddu cynhyrchiant bwyd i'r eithaf oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Anfonwyd peiriannydd o’r llywodraeth i baratoi cynlluniau ar gyfer gwelliannau, ond roedd dŵr llifogydd yn gorwedd ar yr iseldiroedd rhwng Awst a Nadolig 1918.
Cafodd carcharorion rhyfel o'r Almaen eu drafftio i mewn fel llafurwyr i wella'r system ddraenio. Ym mis Medi 1918 bu farw un carcharor o niwmonia o ganlyniad i oerfel wrth weithio ar y corsydd. Roedd wedi cysgu yn Perfeddnant, ger y tiroedd uchaf a adenillwyd o’r môr. Roedd gwersyll gwaith dros dro i garcharorion o'r Almaen ar ochr ddeheuol Tywyn yn ystod ac ar ôl y rhyfel.
![]() |
![]() ![]() |