Safle caer o Oes yr Haearn, Porth y Rhaw

button-theme-prehistoric-moreAr un adeg roedd y pentir i'r dwyrain o Borth y Rhaw yn gartref i gaer bentir fawr, y collwyd llawer ohoni oherwydd erydiad arfordirol. Mae Porth y Rhaw hefyd yn safle daearegol pwysig, gyda chyfoeth o ffosilau. Mae'r clogwyni yn ansefydlog – cadwch at y llwybr.

Photo of trilobite fossil found at Porth y Rhaw
Ffosil 'Paradoxides davidis' o Borth
y Rhaw © Amgueddfa Cymru
– National Museum Wales

Cynlluniwyd y gaer i ddefnyddio'r llethr naturiol ar yr ochr ogleddol ar gyfer amddiffyn rhag ymosodiad o'r tir. Roedd y clogwyni yn darparu amddiffyniad ar yr ochrau eraill. Roedd tair rhes gyfochrog o ffosydd a chloddiau ar yr ochr ogleddol. Ar yr ochr isaf roedd pedwerydd rhes mewn llinell sythach (a gloddiwyd o bosibl ar adeg wahanol). Mae'r rhesi i'w gweld yn glir yn y ddelwedd map o'r awyr isod.

Mae erydiad wedi lleihau'r hyn sy'n weddill o du mewn y gaer yn ddau drwyn cyfochrog bach.

Ar y safle, mae archeolegwyr wedi canfod olion o leiaf wyth tŷ crwn, wedi'u gwneud o bren. Roedd un wedi cael ei ail-adeiladu gan ddefnyddio carreg. Roedd gwrthrychau a ddarganfuwyd yno yn dangos bod pobl yn byw yn y gaer o tua 600CC i tua 350AD.

Darganfuwyd fflint mesolithig hefyd - sy'n dangos bod dyn wedi defnyddio'r tir yma ymhell cyn creu'r gaer.

Yn 1862 glaniodd y palaeontolegydd John Salter ym Mhorth y Rhaw yn ei gwch, gan feddwl ei fod wedi cyrraedd Solfach. Roedd wedi gwneud camgymeriad ffodus: baglodd ar draws math o ffosil trilobit a’i enwi’n Paradoxides davidis yn ddiweddarach, ar ôl y casglwr ffosil amatur David Homfray o Borthmadog. Fel arfer mae trilobitau ffosiledig tua 2cm i 3cm o hyd - ond fe ddaeth John o hyd i un yn mesur dros 50cm!

Mae Porth y Rhaw yn un o’r cymharol ychydig o lefydd yng Nghymru lle mae'n hawdd dod o hyd i ffosiliau o tua 485-515 miliwn o flynyddoedd yn ôl (yn ystod cyfnod Cambria). Mae'r llun yn dangos un o'r ffosilau trilobit o Borth y Rhaw yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.

Gyda diolch i Fran Murphy, o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ac i Amgueddfa Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes

Gweld Map Lleoliad

Mwy am ffosiliau Porth y Rhaw: Gwefan Amgueddfa Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button