Gweithdai'r chwarel lechi, Gilfach Ddu, Llanberis

Gweithdai'r chwarel lechi, Gilfach Ddu, Llanberis

Bellach yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru, codwyd yr adeilad hwn yn yr 1860au fel gweithdai chwarel lechi ffyniannus Dinorwig. Mae’r adeilad yn un o’r esiamplau orau i oroesi o Oes Fictoria ym Mhrydain ac wedi ei ddynodi’n Adeilad Rhestredig Gradd I.

View of Gilfach Ddu in the 1890s

Ym mis Mai 1869, adroddodd y wasg fod gweithdai helaeth erbyn hynny wrth droed yr inclein yn arwain o'r chwarel i Gilfach Ddu. Disodlodd y cyfadeilad newydd y cyfleusterau ger y melinau ager yn uwch i fyny, gerllaw Allt Ddu. Mae'r llun o'r 1890au yn dangos y gweithdai, gyda cherrig gwastraff yn cael eu harllwys lle mae'r maes parcio erbyn hyn.

Mae'r safle yn hirsgwar o amgylch cwrt canolog, fel hen gaer yr Ymerodraeth Brydeinig a nifer o ffatrïoedd a bragdai. Mae gan ei ffenestri fframiau haearn bwrw anarferol, ac mae'r patrwm pren ar eu cyfer i'w weld o hyd yn y Llofft Batrwm. Olwyn ddŵr anferth oedd yn pweru'r holl beiriannau yn y gweithdai trwy siafft gylchdroi wedi'i chysylltu â strapiau - peiriannau fel driliau a thurnau. Gellir gweld yr olwyn ddŵr yn troi hyd heddiw. Hon yw'r olwyn ddŵr fwyaf ym Mhrydain Fawr, yn ail yn unig yn y DU i Olwyn Laxey ar Ynys Manaw.

Roedd yno hefyd efail a ffowndri ar gyfer castio haearn neu bres. Ar yr ochr ddwyreiniol, roedd cyfleusterau i atgyweirio'r locomotifau ager oedd yn gweithio yn y chwareli ac ar hyd Rheilffordd Padarn, sef Rheilffordd Llyn Padarn bellach. Galluogai'r cyfleusterau i'r chwarel wneud darnau sbâr ar gyfer peiriannau, a chydrannau ar gyfer traciau rheilffordd ac incleins.

Pan gaewyd y chwarel yn 1969, dilynwyd hyn gan gyfnod prysur o drafodaethau a gohebiaeth rhwng unigolion brwdfrydig, sefydliadau cenedlaethol, y Cyngor Sir a'r Swyddfa Gymreig. Penderfynwyd y byddai’r Cyngor Sir yn prynu’r adeilad, Adran yr Amgylchedd yn gofalu amdano a’r Amgueddfa Genedlaethol yn ei ddatblygu fel amgueddfa.

Gall ymwelwyr heddiw weld pob rhan o’r amgueddfa, gan gynnwys y Llofft Batrwm – yn llawn patrymau pren gwreiddiol ar gyfer castio cannoedd o wrthrychau gwahanol. Uchafbwynt arall yw'r rhes o dai chwarelwyr, a symudwyd o Danygrisiau i'r amgueddfa yn 1999. Ceir arddangosiadau cyson o hollti llechi a gwaith gofaint, arddangosfeydd, digwyddiadau a chyrsiau. Dilynwch y ddolen isod am wybodaeth am yr amgueddfa.

Cod post: LL55 4TY    Map

Gwefan Amgueddfa Lechi Cymru

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour