Safle llongddrylliad y Spanker, Morfa Harlech
Safle llongddrylliad y Spanker, Morfa Harlech
Cafodd llawer o longau eu difa ar hyd arfordir Morfa Harlech (ychydig y tu hwnt i'r twyni o'r codau QR ar gyfer y dudalen hon), gan gynnwys y Spanker, a gollwyd gan nad oedd ei chapten yn ymwybodol fod goleudy Enlli wedi newid o roi golau cyson i olau a oedd yn fflachio.
Adeiladwyd y Spanker yn Dumbarton yn 1860 ac fe’i chofrestrwyd yn Glasgow. Ei pherchennog a meistr oedd R Whitehall. Yn oriau mân 7 Chwefror 1885, yr oedd yn dod i ddiwedd taith o Jamaica i Lerpwl gyda llwyth o foncyffion coed pan rhedodd ar y lan ym Morfa Harlech.
Atebodd fad achub Criccieth yn gyflym, ond aeth diffoddodd goleuadau’r Spanker wrth i’r 10 rhwyfwr rwyfo tuag at y llong. Roedd yn rhaid i'r criw aros nifer o oriau ar y môr tan olau dydd, heb unrhyw ddarpariaethau (gan nad oeddent wedi oedi cyn cychwyn). Roedd dŵr o'r tonnau mawr yn eu gwlychu’n barhaus.
Gyda’r wawr, gwelodd criw’r bad achub weddillion y Spanker yn tonnau ger y lan, gyda saith o'i morwyr yn glynu at y rhaffau ar un rhan o’r llong a oedd wedi gwahanu oddi wrth y gweddill – fel y gwelwch yn y llun gan Robert Cadwalader. Roedd y pedwar aelod arall o'r criw wedi boddi: Capten Whitehall; y stiward; y boatswain; a Harris y saer.
Cludodd y bad achub y goroeswyr i Gricieth, lle roedd cannoedd o drigolion wedi casglu y tu allan i dŷ’r bad achub. Gofalodd y gymuned am y goroeswyr a chasglu swm sylweddol o arian iddynt brynu dillad. Adroddodd papur newydd fod Mr Greaves o Blas Hen, Uchel Siryf y Sir, wedi eu gwahodd i ginio ar ddydd Sul.
Canfu ymchwiliad y Bwrdd Masnach fod y Spanker wedi ei cholli oherwydd mordwyo ddiofal ac amhriodol, gan nad oedd y meistr a'r mêt yn ymwybodol bod goleudy Ynys Enlli wedi newid o olau sefydlog i olau a oedd yn troi. Ond nid oedd bai ar y mêt, Peter Wood, yn ôl yr ymchwiliad.
Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog