Adeilad Spillers & Bakers, Glanfa Iwerydd, Caerdydd

Pam fod gan yr hen adeilad diwydiannol hwn siâp lletem a wal grwm? Mae cliw yn yr awyrlun o 1950 (trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru), sy’n dangos pâr o draciau rheilffordd yn troi o amgylch yr adeilad i gyrraedd Glanfa Iwerydd.

1950 aerial photo showing Spillers and Bakers buildingCodwyd yr adeilad ar gyfer cwmni melino Spillers & Bakers Ltd yn y 1890au, yng nghanol sbageti o draciau rheilffordd a gwasanaethai dociau gorllewin a dwyrain Bute. Prydlesodd awdurdodau Doc Bute lain o dir siâp lletem rhwng y rheilffyrdd ar gyfer yr adeilad newydd i Spillers & Bakers. Rhoddwyd caniatâd i'r cwmni hefyd ddefnyddio warysau a oedd yn bodoli eisoes gerllaw (sydd bellach wedi'u dymchwel). Parhaodd i ddefnyddio warysau ger y doc gorllewinol (bellach wedi'u llenwi).

Mae’r llun yn dangos sut aeth Traphont Bute heibio pen gorllewinol yr adeilad a welwn yma heddiw, er mwyn i drenau o’r Cymoedd gyrraedd tipwyr uchel lle’r oedd glo’n cael ei ollwng yn syth i longau. Ar y chwith eithaf mae warws nwyddau'r LNWR (gwesty bellach).

Roedd yna hefyd system lefel isel o draciau i wagenni gyrraedd ceiau ar gyfer nwyddau eraill. Yma fe wnaethant ffurfio triongl a oedd bron yn amgylchu yr ardal ar brydles i Spillers & Bakers.

Roedd y cwmni'n mewnforio gwenith, ceirch a grawn arall. Roedd ei felinau mawr yng Nghaerdydd a phorthladdoedd eraill yn cynhyrchu blawd, a pheth ohono'n cael ei anfon ar longau. Roedd gan y cwmni ei longau ei hun. Cynhyrchodd bisgedi cwn ‘Victoria’ hefyd. Y cadeirydd oedd Arthur Baker, un o gyfarwyddwyr y Taff Vale Railway a mab i fasnachwr ŷd ym Mryste. Mae’n gyd-ddigwyddiad bod Spillers & Bakers wedi cyflenwi blawd i bobyddion!

Claddwyd un o'i weithwyr, Michael Keens, gan gwymp o wenith yn 1902 wrth iddo weithio mewn bin ŷd. Rhuthrodd cydweithwyr i'w dynnu allan ond bu farw o fygu. I'r chwith o adeilad Spillers yn y llun mae'r Junction Canal, y mae Schooner Way bellach yn ei chroesi.

Roedd y gamlas yn cysylltu dau ddoc Bute ac yn parhau tua'r gorllewin at Gamlas Sir Forgannwg. Mae'r rhan ddwyreiniol sydd wedi goroesi yn rhan o gamlas gyflenwi’r dociau, sy'n cludo dŵr o afon Taf yn Blackweir trwy Barc Bute a chanol y ddinas i ailgyflenwi'r doc.

Troswyd adeilad Spillers yn fflatiau preswyl yn yr 1980au.

Postcode: CF10 4BX    View Location Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
button-tour-dock-feeder Navigation up stream buttonNavigation downstream button