Eglwys Sant Cynog, Ystradgynlais
Eglwys Sant Cynog, Ystradgynlais
Tybir fod eglwys wedi cael ei hadeiladu yn y cyffiniau yma yn oes y Normaniaid. Roedd yr adeilad a welwn heddiw wedi costio tua £1,700 ac fe’i hagorwyd yn 1861. Roedd hi’n disodli eglwys gynharach a oedd yn sefyll tua 50 medr ymhellach i’r gogledd.
Ar du allan wal yr ystafell boeler mae rhannau o hyn sy’n ymddangos i fod yn gerrig o’r oes Gristnogol gynnar, wedi’u harysgrifio gyda geiriau Lladin. Efallai eu bod yn dyddio o’r 5ed neu 6ed ganrif, sef yr adeg pan yr oedd Sant Cynog yn byw. Roedd ef yn un o nifer o blant y Brenin Brychan Brycheiniog. Tywysoges Wyddelig oedd ei fam, a gafodd ei threisio yn ôl y sôn gan Brychan.
Derbyniodd Cynog freichled aur oddi wrth ei dad. Mae cerdd o’r bymthegfed ganrif yn dweud wrthym ni ei fod wedi defnyddio’r freichled fel arf pendant yn ei frwydr yn erbyn gormeswyr, a oedd yn flaenorol wedi cael caniatâd i dorri tafell o gnawd oddi ar ei forddwyd ar yr amod y byddent yn rhoi’r gorau i aflonyddu ar bobl leol!
Mae rhai o’r gwrthrychau y tu fewn i’r eglwys Fictoraidd wedi’u gwneud o haearn, gan fanteisio fwy na thebyg ar y cyfleusterau oedd ar gael yn y gweithfeydd haearn cyfagos.
Yn 1886, roedd yr eglwys yn lleoliad ar gyfer priodas Adelina Parri, y gantores opera enwog, a ymgartrefodd yng Nghastell Craig-y-Nos, a’r tenor Eidalaidd, Ernsto Nicolini. Roedd llinellau yn cynnwys 900 o blant, gyda phob un yn gwisgo rhosglwm, ar hyd y llwybr at ddrws yr eglwys. Roedd y briodferch yn gwisgo ffrog sidan las gyda mantel les. Rhoddwyd set o lestri “prin a gwerthfawr” o Abertawe i’r pâr oedd newydd briodi gan drigolion Cwm Tawe.
Roedd rhai o’r gynulleidfa yn “siomedig” yn 1899 pan gafodd gwasanaethau iaith Saesneg yr eglwys eu tynnu’n ôl yn sydyn! Fel yr oedd diwydiannau lleol wedi denu llafur o bell, roedd nifer cynyddol o drigolion lleol ddim yn siarad Cymraeg. Roedd gwasanaethau Saesneg ar wahân wedi cael eu cynnal yn yr eglwys ers yr amser y cafodd yr adeilad newydd ei agor.
Roedd gweithgareddau yn neuadd yr eglwys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys arwerthiant pen bwrdd yn 1917, a drefnwyd gan wragedd lleol er budd Ysbyty Atodol Pontardawe. Roedd eitemau a werthwyd yn cynnwys cwiltiau a wnaed gan law a mochyn ifanc!
Y tu mewn i’r eglwys, gallwch weld cofebion i bobl leol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Dyma oedd prif gofebion rhyfel y dref tan yr 1970au, pan gafodd y gofeb ryfel ei chodi ym Mharc yr Orsedd sydd gerllaw. Mae naw o feddi rhyfel yn y fynwent - gweler y manylion isod.
Cod post: SA9 1HQ Map
I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tuag at y gorllewin ar hyd Heol Eglwys hyd at y gofeb rhyfel ym Mharc yr Orsedd |
![]() |
![]() ![]() |
Churchyard war graves: First World War
Butler, Richard, Private 63432. Died 23/10/1918 aged 24. South Wales Borderers. Son of John Harry Butler and Elizabeth Ann Butler of Oddfellows Street, Ystradgynlais.
Carr, Frederick Herbert, Private 84099. Died 13/12/1918. Royal Air Force. Husband of Beatrice Annie Carr of 9 Graig Terrace, Brecon Road, Ystradgynlais.
Davies, Thomas Howell, Captain. Died 06/10/1919 aged 33. South Wales Borderers. Son of Mr and Mrs Thomas Davies, of Llain-y-Gors, Ystradgynlais; husband of Edith Davies (later Newman). Born in St Clears, Carmarthen.
Churchyard war graves: Second World War
Evans, David Douglas, Sergeant 3025155. Died 26/08/1944. Royal Air Force Volunteer Reserve.
Evans, Henry Garfield, Guardsman 2735038. Died 17/02/1940 aged 20. Welsh Guards. Son of John Henry and Gwen Evans, of Penrhos.
Evans, William Stanley, Petty Officer Sick Berth D/MX 45954. Died 12/06/1945 aged 36. Royal Navy. Son of John Henry and Gwen Evans, of Penrhos; husband of Mary Ellen Evans, of Abercrave.
Jones, Cyril Eurfryn, Private 14821427. Died 29/08/1945 aged 19. Welch Regiment. Son of Thomas Frederick and Annie Jones, of Ystradgynlais.
Jones, John, Sapper 4077138. Died 19/02/1944 aged 24. Royal Engineers. Son of William John and Mary Jones, of Glanrhyd, Ystradgynlais.
Powell, Alfa, Sergeant (Wireless Op./Air Gunner) 1181850. Died 17/04/1942 aged 20. Royal Air Force Volunteer Reserve. Son of William David and Janet Ann Powell, of Bedfont, Feltham, Middlesex.