Capel Sardis, Ystradgynlais
Cafodd y capel Annibynwyr hwn ei agor yn 1861 a’i ailagor yn 1887 wedi addasiadau. Roedd yn disodli capel cynharach ar y safle, yn dyddio o 1841. Nid yw’r prif adeilad yn cael ei ddefnyddio bellach ar gyfer addoli ond cynhelir gwasanaethau rheolaidd yn festri’r ystafell ysgol. Adeiladwyd yr ystafell ysgol yn 1926.
Roedd y gwasanaethau yn wreiddiol yn y Gymraeg. Y capel oedd y lleoliad ar gyfer eisteddfodau a chymanfaoedd canu. Defnyddiwyd y festri weithiau ar gyfer cwestau.
Yn 1904, cynhaliwyd cyfarfod yma gan y gwrthwynebwyr goddefol, yn dilyn gwerthu eiddo yn hytrach na threthi na chafodd eu talu mewn protest yn erbyn Deddf Addysg 1902. Roeddynt yn rhan o ymgyrch anufudd-dod sifil (a gefnogwyd gan David Lloyd George, Prif Weinidog y dyfodol). Roedd anghydffurfwyr yn gweld y ddeddfwriaeth fel ymdrech i ddiddymu eu llais mewn ysgolion lleol a chynyddu cefnogaeth i ysgolion Anglicanaidd ac Ysgolion Pabyddol.
Cafodd cynulleidfa Capel Sardis hwb yn 1905 gan yr “adfywiad” Cristnogol a ysgogwyd gan y Parch Evan Roberts o Gasllwchwr. Er y gallai’r capel ddal 1,100 o addolwyr, roedd yn aml yn rhy llawn. Nid oedd llawer o’r 230 o aelodau newydd a fyddai’n mynychu yn gallu siarad na deall y Gymraeg!
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, eisteddodd David Price, diacon Sardis ar y tribiwnlys milwrol lleol lle’r oedd yn cynrychioli’r gymuned ffermio. Roedd ef ei hunan yn ffermio ym Mhalleg. Gwrandawodd y tribiwnlys ar ddadleuon dynion lleol dros gael eu heithrio rhag gwasanaeth milwrol gorfodol gan benderfynu a ddylent fynd i’r rhyfel ai peidio. Wedi ei farwolaeth yn 1919, derbyniodd David glod am ei “farn deg” mewn achosion tribiwnlys a oedd angen eu trin gyda doethineb.
Ym mis Medi 1917, cynhaliwyd gwasanaeth derbyn ar gyfer pedwar dyn oedd wedi ymuno â’r fyddin. Roedd un ohonynt, y Preifat D J Davies, wedi colli braich. Roedd un arall ohonynt, sef y Preifat Isaac Roberts, yn swyddog negesau meddygol y tu ôl i flaen y gad yn Ffrainc ac fe fu farw o’i anafiadau wedi cyrch awyr ar ei ysbyty ym mis Mehefin 1918.
Cod post: SA9 1JY Map
I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tuag at y gorllewin ar Heol Giedd a throwch i’r chwith. Croeswch yr afon, dilynwch Heol Drafnidiol hyd at ei diwedd, gan ddilyn Heol Eglwys at faes parcio’r eglwys. |
![]() |
![]() ![]() |