Eglwys St Elidyr, Amroth

acc-logo button-theme-women

Mae’n debygol bod rhannau o’r eglwys hon yn perthyn i’r drydedd ganrif ar ddeg Defnyddiwyd y safle at ddibenion crefyddol cyn hynny. Mae’r eglwys yn Amroth yn un o nifer yn sir Benfro sydd wedi’u cysegru i Elidyr. Y farn yw mai’r un person yw St Elidyr â St Teilo a’u bod yn perthyn i’r 6ed ganrif. Ganwyd Teilo ym Mhenalun mae’n debyg. 

Tua 1150 rhoddwyd yr eglwys a thir cyfagos i’r Ysbytywyr o Slebech sydd ychydig i’r gogledd o Amroth. Gallai herwyr hawlio lloches yma ar yr amod eu bod yn ymadael â’r wlad am byth. Cynorthwyai’r Ysbytywyr bererinion ar eu ffordd o Solfach i Dyddewi

Yn 1638 gorfodwyd ficer Amroth i ymadael wedi iddo wrthod dilyn gorchymyn y brenin i ddarllen Llyfr y Chwaraeon o’r pulpud ar y Sul  (roedd y llyfr yn rhestri’r chwaraeon hynny y gellid neu na ellid eu chwarae ar y Sul). Roedd y ficer yn gwahardd chwarae, yn ogystal, y gemau hynny a oedd yn cael eu caniatáu wedi’r gwasanaeth. 

Adnewyddwyd yr eglwys a’i hestyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed mae 70% o’r adeiladwaith yn dyddio o gyfnod cynt. Codwyd y tŵr yn ystod yr Oesoedd Canol.

Photo of 1990s window in Amroth churchYchwanegwyd y capel ar ochr ogleddol yr eglwys yn yr unfed ganrif ar bymtheg a hynny at ddefnydd preifat deiliaid y castell. Dyna oedd y drefn tan i’r capel gael ei gyflwyno i’r eglwys yn y 1880au. 

Gwaith gan Roy Coomber yw un o’r ffenestri lliw er coffáu Herbert Ernest Giles, ffermwr o Lanteg, a fu farw mewn damwain yn 1992. Mae’r ffenest (a welir yma) yn cynnwys golygfeydd lleol. 

Gerllaw porth yr eglwys mae grisiau a fu’n sylfaen croes bregethu o’r Oesoedd Canol. Dinistriwyd y groes ganrifoedd yn ôl. Mae hen gerfiadau, yn perthyn i’r ail ganrif ar bymtheg o bosbl, ar y garreg a saif ar y grisiau. Ceir pregeth wrth sylfaen y groes weithiau pan gynhelir gwasanaeth yn yr awyr agored. 

Mae cofeb haearn ar rai o’r beddau sy’n coffáu’r cysylltiad â’r diwydiant haearn lleol. Claddwyd y gŵr busnes David Rees yn y fynwent yn 1789. Gadawodd ef arian i ddarparu addysg rad i blant Amroth. Mewn adeilad ar dir yr eglwys y digwyddai hynny ar y cychwyn. Yn ddiweddarach symudwyd i’r adeilad Fictoraidd ar draws y ffordd

Mae Mary Rees, nee Prout wedi’i chladdu yma yn ogystal. Dedfrydwyd hi i farwolaeth yn 1864 am daflu ei merch chwe wythnos oed i dwll siafft. Newidiwyd y ddedfryd, sut bynnag, a bu hi farw yn 1921. Gweler y troednodiadau am ragor o’i hanes.

Diolch i Mark Harvey

Code post: SA67 8NJ    Gweld map y lleoliad


Troednodiadau
: Rhagor am Mary Prout.

Ganwyd Mary Prout yn 1843 a’i chodi yn Summerhill, Amroth. Bu ei mam farw yn 1861.

Anfonwyd Mary i wyrcws Arberth gan ei thad a’i wraig newydd wedi iddyn nhw ddeall bod Mary yn feichiog. Pan oedd ei baban, Rhoda, yn chwe wythnos oed cerddodd Mary o’r wyrcws i Amroth. Ar ei ffordd yno taflodd Rhoda i bwll siafft yn Colby a brysio ychydig ffordd oddi yno. Yn y man dychwelodd gan sylwi nad oedd yn gallu clywed y baban. 

Nid oedd iselder ôl-enedigaeth yn salwch oedd wedi’i gydnabod ar y pryd a bu rhaid iddi sefyll ei phrawf am lofruddio. Ni ddaeth ei thad na’i llysfam i’r llys. Roedd ei mam-gu yn dyst i’r erlyniad yn erbyn ‘y carcharor’ fel roedd hi yn ei galw. Gwrthodai ddefnyddio enw Mary. 

Doedd dim cyfreithiwr gan Mary i’w hamddiffyn ac ni chafodd gyfle i wneud datganiad yn y llys. Dedfrydwyd hi i’w chrogi. Ond anfonwyd ple am drugaredd at y Frenhines Fictoria ar ran 1,200 o bobl, yn cynnwys Uchel Siryf Sir Benfro, ynadon a bargyfreithwyr. Newidiwyd ei chosb i ugain mlynedd o garchar. Gellid cwtogi’r ddedfryd i bymtheng mlynedd am ymddygiad boddhaol. 

Priododd ym Mehefin 1883 a geni rhagor o blant. Bu farw yn 1921 yn 78 oed yng nghartref ei mab yn Llundain. Cludwyd ei chorff i Amroth i’w gladdu.