Rhan ddeheuol Ffordd y Marchogion, Amroth

acc-logo

Mae Ffordd y Marchogion yn dilyn llwybr y pererinion hynny yn yr Oesoedd Canol a fyddai’n glanio yn Amroth cyn parhau ar droed i Dyddewi. 

Roedd cysylltiad clos rhwng Amroth a’r cyffiniau â Marchogion y Deml a’r Ysbytywyr (neu Farchogion Sant Ioan) urddau a fu’n amlwg yn y Croesgadau. Yn raddol gwanhaodd yr awydd i ryfela ym Mhalestina ac i drin clwyfedigion y Croesgadau. Aed ati wedyn i amddiffyn pererinion ar draws Ewrop benbaladr. Darfu am y Temlwyr yn 1312. 

Rhoddwyd eglwys Amroth (lle y saif Eglwys St Elidyr heddiw) Ynghyd â hanner can cyfer o dir lloches i’r Ysbytiwyr c.1150. Ar orchymyn y Pab, caniateid i’r Ysbytywyr gynnig lloches i bob drwgweithredwr ac eithrio’r rheini a oedd yn euog o deyrnfradwriaeth a chysegr-ladrad, ar yr amod bod yr herwr yn anelu am borthladd ac yn ymadael â’r deyrnas am byth. 

Yn Sir Benfro roedd commandery neu ganolfan gan yr Ysbytywyr yng nghyffiniau hen eglwys Slebech, adfail erbyn hyn o fewn ystad Slebech. Roedd y commandery yn gweinyddu ystadau helaeth yn esgobaeth Tyddewi ac roedd ysbyty i’r methedig a chanolfan recriwtio i’r Croesgadau yma. Roedd enw da i’r lletygarwch a oedd yn cael ei gynnig ganddyn nhw i bererinion. 

Rhwng Amroth a Melin Blackpool, sy’n ffinio ag ystad Slebech, mae Ffordd y Marchogion sy’n 15 km (9.3 milltir) o ran ei hyd ac yn coffáu llwybr y pererinion. Mae’r ffordd yn mynd trwy bentrefi eraill a gysylltir â’r Ysbytywyr megis Yr Eglwys Lwyd (Ludchurch) a Thredemel (Templeton). Nodir y ffordd gan arwyddion croes wen wythbwynt Malta. 

Yr enw ar ben gorllewinol Amroth bellach yw Templebar. Enw cynt ar yr ardal oedd y ‘Burrows’. Roedd cwningar yma er mwyn i’r creaduriaid epilio a ffynnu ar y safle. Roedd adeiladau yn y cyffiniau oedd wedi’u galw Burrows Cottages a chwe garej a adeiladwyd gan Thomas Richards tua 1930. Ysgubwyd y cyfan i’r môr. Yr yr haf rhannwyd y garejys gan rwyd wifren a’u llogi i ymwelwyr am swllt y noson. Tynnid y wifren dros y gaeaf i ffurfio gofod eang Yr enw crand arno oedd Burrows Hall. 

The Burrows hefyd oedd yr enw ar un o’r ‘patches’ lle cloddiwyd mwn haearn.    

Diolch i Mark Harvey, ac i'r Athro Dai Thorne am y nodiadau am enwau lle

Cod post: SA67 8NG    Gweld map y lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Rhai o enwau lle Ffordd y Marchogion

Slebech: Mae’n bosibl bod yr ail elfen yn cynrychioli’r Hen Saesneg bace ‘nant, dyffryn’.

Yr Eglwys Lwyd, Ludchurch: Un anhawster wrth geisio esbonio’r enwau hyn yw penderfynu beth yn union yw’r berthynas rhwng y ddau enw. Mae’n ymddangos mai’r elfen gyntaf yn Ludchurch yw’r enw personol cynnar Saesneg Loud. Fel rheol byddem yn disgwyl gweld enw sant yn elfen gyntaf yn yr enw, ond nid oes cofnod am sant o’r enw hwnnw. Mae’n bosibl fod y gair Cymraeg llwyd wedi’i gysylltu â Ludchurch ac mae’r enw personol Llwydeu yn digwydd yn y Mabinogi.

Tredemel: Cyfieithiad o Templeton, ‘fferm sy’n eiddo i urdd Marchogion y Deml’. Mae’n debygol fod urdd Marchogion y Deml o ganolfan Slebech wedi sefydlu hospis yma.