Eglwys y Santes Fair, y Trallwng

button-theme-pow PWMP logo

Eglwys y Santes Fair, y Trallwng

welshpool_st_marys_churchMae’r rhannau hynaf o’r eglwys hon yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, pan godwyd adeilad petryal syml gyda thŵr ar ochr y bryn. Cafodd corff yr eglwys a’r tŵr eu hymestyn dros y canrifoedd dilynol. Mae’r dyfrlliw gan John Ingleby (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos yr eglwys yn 1794.

Gwnaed rhyw gymaint o’r gwaith ail-adeiladu mewn ymateb i ddifrod, gan gynnwys ar ôl tân a effeithiodd ar lawer iawn o’r Trallwng yn 1665. Yn gynharach y ganrif honno cafodd organ yr eglwys ei difetha gan Biwritaniaid. Adeiladwyd yr organ bresennol gan yr adeiladwr organau o fri o oes Fictoria, Henry y “Tad” Willis.

Yn y 18fed ganrif cafwyd cwynion bod “bobl gyffredin iawn” yn mynd i’r oriel ym mhen dwyreiniol yr eglwys gan esgus canu salmau ond eu bod yn achosi helynt yno, gyda rhai pobl yn poeri ar ben yr addolwyr islaw!

Ar ddechrau’r 15fed ganrif Adda o Frynbuga oedd yr offeiriad yma. Mae ei groniclau yn ffynhonnell hanesyddol bwysig, sy’n darparu gwybodaeth am wrthryfel Owain Glyndŵr, ymysg pethau eraill.

Ffigur llenyddol arall sy’n gysylltiedig â’r eglwys yw William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg yn 1588. Roedd yn ficer yma rhwng 1575 ac 1578. Ceir cofeb iddo yn yr eglwys.

Y gwrthrych hynaf y tu mewn yw cofeb o 1597 i Syr Edward Herbert, nai i Frenin Harri’r VIII. Ef oedd y cyntaf o deulu’r Herbert i fyw yng Nghastell Powys. Caiff aelod diweddarach o’r teulu, Edward James Herbert (1818-1891), ei goffau gan gist-fedd lle mae delw ohono mewn gwisg academaidd. Bu’n uchel ddistain ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn brifathro cyntaf ym Mhrifysgol Bangor.

Mae cofeb arall sy’n anrhydeddu aelodau o Iwmoniaeth Sir Drefaldwyn a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae plac pres i goffau’r Capten Andrew Gordon Reed, a fu farw mewn brwydr yn 1915 yn Gallipoli, yn ystod ymdrechion ofer y Cynghreiriaid i ymosod ar Dwrci. Ei dad, Samuel, oedd rheithor Llangynyw. Roedd ei frawd, y Parch J Bennett Reed, yn gaplan gyda’r fyddin yn y rhyfel.

Mae prif gofeb ryfel y dref yn y fynwent, ac mae’n coffau dynion o’r ardal gyfan a fu farw yn y ddau ryfel byd. Ceir pum bedd o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y fynwent, a dau fedd o’r Ail Ryfel Byd – gweler isod am y manylion.

Gyda diolch i Roger Brown ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Cod post: SY21 7DP    Map

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dringwch y grisiau. Mae’r gofeb ryfel ar ben y grisiau, ar y dde
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button


First World War graves in churchyard

  • Baines, A Ernest, Serjeant 355037. Died 15/08/1917 aged 36. Royal Welsh Fusiliers. Son of Pryce Baines, of Welshpool; husband of Fanny Maria Baines, of 2 Drinkwater Street, Mountfields, Shrewsbury. Lived at Powis Arms Yard. Died from the effects of exposure following the sinking of the troop transport ship Ivernia (a Cunard liner) in January 1917.
  • Jones, Robert Harold, Sapper WR/44075. Died 02/06/1919 aged 19. Royal Engineers. Son of Thomas William and Annie Jones, of 18 Queens Cottage, Horton, Wellington, and the late Thomas William Jones. Born in Welshpool.
  • Matthews, G, Gunner 35599. Died 10/12/1918 aged 28. Royal Garrison Artillery. Son of Richard and Jane Matthews, of Glyn Golfa, Welshpool; husband of Hilda Matthews.
  • Morris, Alfred, Private 9046. Died 19/04/1916 aged 29. Royal Welsh Fusiliers. Son of Richard and Elizabeth Morris.
  • Roberts, TD, Private 1919. Died 24/08/1921. Montgomeryshire Yeomanry.

Second World War graves in churchyard

  • Cerrone, Albert Edward, Private 4531766. Died 02/06/1945. West Yorkshire Regiment (Prince of Wales's Own). Husband of DM Cerrone, of Welshpool.
  • Jones, Noel George, Leading Aircraftman 614337. Died 06/11/1940 aged 27. Royal Air Force. Son of Alfred and Agnes Jane Jones, of Welshpool.