Cadeirlan Sant Gwynllyw, Casnewydd

 

tudorroseW


Cadeirlan Sant Gwynllyw, Stow Hill, Casnewydd

Mae eglwys gadeiriol esgobaeth Mynwy wedi'i chysegru i Gwynllyw. Fersiwn Seisnigedig o'i enw yw Woolos. Yn ôl y chwedl, rhyfelwr oedd Gwynllyw a drodd yn Gristion oherwydd dylanwad ei wraig a'i fab Cadog.

Dywedwyd wrth Gwynllyw mewn breuddwyd i adeiladu eglwys, mewn penyd am bechodau ei fywyd cynharach, ble bynnag y deuai o hyd i ych gwyn gyda smotyn du ar ei dalcen. Daeth o hyd i fwystfil o'r fath ar ben Stow Hill, ac adeiladodd meudwy pren yno. Bu farw ym mreichiau ei fab ar 29ain Mawrth 500AD, a dethlir ef ar 29ain Mawrth bob blwyddyn. Mae cerflun symbolaidd o'r ych, o'r enw "Cariwr Cloch", yn sefyll mewn ardal siopa yng nghanol y ddinas.

Claddwyd Gwynllyw ar safle cadeirlan heddiw. Roedd adeilad cynharaf yr eglwys yma wedi’i wneud o bren a mwd yn ôl pob tebyg, ac fe’i ailgodwyd sawl gwaith, o bosibl lle saif Capel y Santes Fair bellach. Capel Galilea oedd hwn o'r blaen, yn ffurfio mynedfa i gorff yr eglwys, ac mae'n cysylltu'r corff â'r twr gorllewinol. Mae peth o'i waith maen yn dyddio o'r amseroedd Sacsonaidd, a'r rhan fwyaf o c.1200.

Ymosodwyd ar yr eglwys sawl gwaith – gan fôr-ladron Gwyddelig yn 846, Llychlynwyr Denmarc yn 875, lluoedd yr Iarll Harold yn 1060 a gwrthryfel Owain Glyndŵr yn gynnar yn y 15fed ganrif. Fe roddodd y Brenin William II yr eglwys i fynachlog San Pedr yng Nghaerloyw ym 1093. Mae'n debyg mai’r fynachlog a arianodd adeiladu'r rhan fwyaf o gorff yr eglwys, gan gynnwys ei fwa Normanaidd. Mae'r bwa ysblennydd hwn yn gorffwys ar golofnau Rhufeinig a gymerwyd, yn ôl pob sôn, o gaer y Llengfilwyr Rhufeinig yng Nghaerllion, i'r gogledd o Gasnewydd.

Ymwelodd Baldwin, Archesgob Caergaint, â Chasnewydd ym mis Mawrth 1188 ar ei daith trwy Gymru i recriwtio ar gyfer y trydydd croesgad. Gydag ef roedd Gerallt Gymro, a gofnododd y daith yn fanwl. Ysgrifennodd Gerallt mai Casnewydd yw lle mae afon Wysg yn llifo i'r môr, ar ôl cychwyn yn Nghantref Bychan. Fe wnaeth llawer o ddynion ymrestru ar gyfer y groesgad yng Nghasnewydd.

Dywedwyd bod twr y gadeirlan wedi’i ariannu gan Siasbar Tudur ar ôl i’w nai gael ei goroni’n Frenin Harri VII. Siasbar oedd cynghorwr Harri yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, pan oedd y ddau yn alltudion yn Llydaw a Ffrainc, ac fe chwaraeodd ran allweddol ym muddugoliaeth Harri ar faes Bosworth ym 1485. Roedd arglwyddiaeth Casnewydd yn un o lawer o wobrau a roddodd y brenin newydd i Siasbar, a wariodd peth o'i ffortiwn enfawr ar atgyweirio a gwella eglwysi yn Ne Cymru.

Rheolwyd yr eglwys gan Esgob Caerloyw o 1540 (ar ôl i'r Brenin Harri VIII orchymyn diddymu mynachlogydd) tan 1882. Yn y cyfnod hwn diflannodd llawer o'r addurniadau wrth i Biwritaniaeth gydio yn Ne Cymru. Dechreuwyd adfer yn raddol ym 1853. Daeth ehangu pellach wedi i’r Eglwys yng Nghymru – newydd ei datgysylltu – greu esgobaeth Mynwy ym 1921. Ym 1949 cadarnhawyd hen eglwys blwyf Sant Gwynllyw fel cadeirlan yr esgobaeth.

Ym 1839 claddwyd cyrff 10 Siartydd yn gyfrinachol, mewn beddau heb eu marcio, y tu allan i'r eglwys. Fe’u lladdwyd wrth iddynt gymryd rhan mewn protest o blaid democratiaeth y tu allan i westy’r Westgate. Mae plac ym mynwent yr eglwys gadeiriol yn coffáu'r Siartwyr a fu farw.

Yng Nghadeirlan Sant Gwynllyw mae 13 o glychau, yr un nifer ag yng Nghadeirlan Llandaf. Maen nhw'n cael eu canu bob bore Sul gan grŵp ymroddedig. Bu farw un o glychwyr yr eglwys, Fred Powles, yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cod post: NP20 4EA    Map

Gwefan y gadeirlan 

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
Heroes and Villains Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button