Afon Ebwy a Nant Pencarn, Casnewydd

Afon Ebwy a Nant Pencarn, Casnewydd

Yn y fan hon ar Wastadeddau Gwent mae pont droed dros afon Ebwy ar Lwybr Arfordir Cymru.

Yn yr oesoedd canol llifai nant o’r enw Nant Pencarn rywle yn yr ardal hon – o bosibl lle y mae afon Ebwy heddiw.

Cofnodwyd y ffurfiau Eboth yn 1101, Ebouith c.1537 ac Ebwy (y sillafiad safonol) yn 1631. Mae Ebwy yn tarddu o ffurf gynharach Ebwydd sef ‘eb-’, ceffyl, (fel yn ‘ebol’) a ‘gŵydd’, gwyllt gan gyffelybu’r afon i geffyl gwyllt. Mae sawl afon arall yng Nghymru wedi’u cyffelybu i anifail.

Lledodd enw’r afon i gwmpasu amryw enwau lleoedd gan gynnwys tref Glynebwy, ger blaen y cwm. Gerllaw Casnewydd roedd maenor o’r enw Eboth alias Greefield.

Yn y flwyddyn 1188 daeth Archesgob Caergaint i’r ardal ar ei daith trwy Gymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Roedd Gerallt Gymro yn gwmni iddo ac mae Gerallt yn nodi yn ei ddyddiadur bod y cwmni wedi croesi Nant Pencarn ger Casnewydd.

Mae’r tirwedd wedi newid yn ddirfawr ers hynny ac ni ŵyr neb lle yn union y llifai’r nant honno. Mae’n bosibl ei bod yn bras ddilyn cwrs afon Ebwy yn yr ardal hon. Mae’n debygol ei bod wedi llifo trwy ardal Duffryn (Dyffryn) i’r gorllewin lle roedd tair fferm  a maenor o’r enw Pencarn. Mae’r enw hwnnw’n cynnwys yr elfennau ‘pen’ sef copa a ‘carn’ sef pentwr neu grug.

Nododd Gerallt mai dim ond wrth rydau penodol roedd modd croesi Nant Pencarn am ei bod yr llifo trwy dir corsiog iawn. Mae’n dyfynnu darogan gan lenor o gyfnod cynt, Merlin Silvester, a honnai y byddai’r Cymry yn colli petai gŵr nerthol â  brychni ar ei wyneb yn croesi Rhyd Pencarn wrth ymosod.

Soniodd Gerallt bod y Brenin Harri’r II, yn ystod ei amser ef, wedi penderfynu croesi’r rhyd honno yn hytrach na chroesi rhyd newydd gerllaw. Roedd y Cymry a ddaeth i wylio lle y byddai Harri’n croesi wedi’u siomi. Mae’n debygol fod Gerallt yn cyfeirio at ymosodiad a ddigwyddodd yn y 1160au pan gollodd yr Arglwydd Rhys, llywodraethwr De Cymru, lawer o’i diroedd i Harri.

Diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button