Cerflun o Thomas Charles, y Bala
Crëwyd cerflun yr arweinydd Methodistaidd Thomas Charles sy’n sefyll y tu allan i Gapel Tegid gan gerflunydd a oedd hefyd yn gerddor ac yn olau blaenllaw yng nghymuned Gymraeg Llundain.
Ymsefydlodd Thomas Charles (1755-1814) yn y Bala ac yr oedd yn un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yn nhwf cyflym Methodistiaeth yng Nghymru. Dysgwyd hanes Mary Jones i genedlaethau lawer o blant Cymru; cerddodd Mary 42km (26 milltir) – yn droednoeth – i brynu Beibl ganddo.
Wedi'i ysbrydoli gan yr Ysgolion Cylchynol yn ei sir enedigol, sefydlodd Thomas drefn debyg ar gyfer plant yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Defnyddiodd gapel gwreiddiol y Methodistiaid yma ar gyfer rhai dosbarthiadau ysgol. Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalen am ei gyn-gartref yn y Bala. Yn 1867 dechreuwyd codi arian ar gyfer cerflun marmor ohono a oedd i'w osod o flaen y capel a'i amgylchynu gan reiliau.
Roedd y capel, a ddaeth i gael ei adnabod fel Capel Tegid, yn cael ei ailadeiladu ar y pryd. Tynnwyd yr hen lun, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan John Thomas ac mae’n dangos y cerflun yn fuan ar ôl ei gwblhau ym 1875.
Crëwyd y cerflun gan William Davies (a welir yn y llun isaf), a adnabyddir wrth ei enw barddol 'Mynorydd'. Ganed ef ym Merthyr Tudful yn 1828. Dysgodd ganu sawl offeryn cerdd yn blentyn, ond wedi iddo symud i Lundain yn 1844 dewisodd fynd yn gerflunydd yn hytrach na cherddor.
Yn ddiweddarach bu Mynorydd yn byw yn Blenheim Crescent, Notting Hill. Ef oedd y grym y tu ôl i ddatblygiad y capel Cymraeg yn Charing Cross Road. Bu'n arwain corau Cymreig ac yn dysgu cantorion. Roedd ei ferch hynaf Mary yn "soprano o fri".
Cod post: LL23 7EL Gweld map y lleoliad
Capel Tegid – gwefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru